1980
Plant y Paith Dros gan mlynedd wedi sefydlu'r Wladfa, mae Cymry Patagonia yn trafod eu dyfodol Un o fentrau tramor mwyaf llwyddiannus ac mwyaf anturus y Cymry oedd y Wladfa a sefydlwyd ganddynt ym Mhatagonia wedi i'r fintai gyntaf o 150 o bobl hwylio allan yno yn 1865. Wedi mordaith o dri mis, glaniodd eu llong ym Mhorth Madryn ar Orffenaf 28, sef canol gaeaf yn Ne America. Bu'n rhaid i'r Cymry gysgodi mewn ogofâu rhag y tywydd gwael. Ond ar waetha'r cychwyn caled hwn, fe ffynnodd y trefedigaethau Cymreig. Yn y darn hwn, o 1980 bu Cymry Patagonia yn sgwrsio am eu ffordd o fyw ac am eu dyfodol.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Plant y Paith darlledwyd yn gyntaf 02/05/1980
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|