1965
Y Gymru Bell Breuddwyd o Gymru rydd yn blodeuo ar baith anghysbell Patagonia Yn 1865, fe hwyliodd mintai o ymfudwyr o Gymru ar y llong Mimosa o Lerpwl ar eu ffordd i adeiladu Cymru newydd 8,000 o filltiroedd i ffwrdd yn Ne America. Roedd llywodraeth Ariannin wedi addo tir i'r trefedigaethwyr fel modd o gadarnhau rheolaeth Buenos Aires dros yr ardal fawr ac anghysbell hon. Glaniodd y Cymry mewn man a gafodd ei enwi ganddynt fel "Porth Madryn", ac wedi cyfnod o galedi mawr, fe lwyddodd yr ymfudwyr i sefydlu cymunedau Cymraeg llewyrchus yn nyffryn yr afon Chubut, mewn mannau fel Gaiman, Dolavon a Threlew, ac yn ddiweddarach wrth droed yr Andes mewn mannau megis Esquel a Threvelin. Yn yr ardaloedd hyn, deil y gymdeithas Gymreig yn gryf, ac er mai iaith lleiafrif o'r trigolion yw hi erbyn hyn, fe glywir y Gymraeg yno o hyd. Gan mlynedd yn union wedi'r glaniad. ymwelodd Nan Davies â Chymry Patagonia. Mynychodd oedfa yn y Gaiman a gwrando ar ganu araf lleddf o'r hen emynau Cymraeg.
Clipiau perthnasol:
O Y Cymru Bell darlledwyd yn gyntaf 25/05/1965
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|