大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Mattoidz Gigs gwerth chweil
Java, Sibrydion, Mattoidz, Sleifar a'r Teulu, Swci Boscawen, MC Saizmundo
Lowri Johnston yn gigio - nos Wener: Java, Sibrydion, Mattoidz, Sleifar a'r Teulu, Swci Boscawen, MC Saizmundo

Penwythnos ola'r Eisteddfod ac mae'r cyffro i'w deimlo wrth fynd mewn i Undeb y Myfyrwyr ym Mangor.

Oherwydd fy anallu i reoli amser yn gall, dwi'n colli Java a Sibrydion, er mawr siom imi.

Dal Mattoidz
Ond diolch byth dwi'n dal Mattoidz, ac er imi eu gweld nhw fyw na 30 o weithiau erbyn hyn, maen nhw'n dal i blesio! Set yn llawn o'r ffefrynnau roclyd - T欧 yn Nhidrath, Tan y Tro Nesa', Angel a'r ffeinali arferol - Sos Coch - gyda rhan helaeth o'r gynulleidfa yn mynd yn nyts!
Swci Boscawen yw prosiect Mared Lenny o Gaerfyrddin oedd Doli gynt.

Yn dechrau'r set gyda'i sengl 'Swci' sy'n g芒n bop/roc dda iawn, mae'r set yn eitha' byr ond dwi'n mwynhau yn fawr.

Mae'n fy atgoffa o Blondie ac mae gan Mared lais cofiadwy ac unigryw a phresenoldeb da iawn ar lwyfan. Edrych ymlaen i glywed mwy ganddi!

Prif fand y noson
Yn llawer rhy fuan i mi, daw prif fand y noson i'r llwyfan - Sleifar a'r Teulu.

Ar 么l eu gweld yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni ac wedyn ffilm ohonynt yn recordio sesiwn John Peel yn Maida Vale yn gynharach yn y noson yn Pictiwrs yn y Pyb, rwy'n gwir edrych ymlaen i'w gweld nhw, a dydy nhw ddim yn siomi!

Er dwi ddim cweit yn cofio trefn y caneuon (wel, mae'n nos Wener a dwi wedi bod yma ers wythnos!), maen nhw'n dyn ac mae'r rapwyr i gyd yn cydweithio'n wych - Steffan Cravos, Gareth "Chef" Wiliiams, Cynan Kenavo, Cofi Bach a Tew Shady, Llwybyr Llaethog... Ma' pawb 'ma!

"Mae'n mynd i fod yn ddiwrnod da yn 么l pob s么n..." yn uchafbwynt i mi; c芒n wych, chilled, perffaith ar gyfer yr haf.

Hefyd 'Cynrychioli' gyda phob rapiwr ar y llwyfan yn cael y cyfle i arddangos eu doniau - o'r Cynan Llwyd ifanc, hynod addawol i'r rhai mwy addawol fel John o Llwybr Llaethog a Steffan Cravos.

Trawsdoriad o rapwyr Cymru ar un llwyfan - dwi yn y nefoedd!

Mae'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn teimlo'r un fath gyda nifer yn dawnsio'n wyllt ac yn amlwg yn mwynhau. Noson sy'n dod i ben llawer rhy fuan!

Gigs gwerth chweil
Rhaid llongyfarch Cymdeithas yr Iaith ar gynnal wythnos gyfan o gigau gwerth chweil gyda llawer o amrywiaeth.

Er na fues i yng Nghofi Roc yng Nghaernafon, mae'n debyg iddyn nhw fod yn llwyddiant mawr.

Ond dwi'n gallu cadarnhau fod y gigiau yn Amser, Bangor yn wych ac hefyd yn llwyddiant mawr. Llongyfarchiadau i'r trefnwyr - gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesa' yn Eisteddfod Abertawe...!

Mattoidz

Mwy o storiau Dydd Sadwrn


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy