大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Mattoidz Mattoidz yn Iwerddon!
Mehefin 2004
Bu Rhys James o Gapel Isaac sy'n aelod o'r gr诺p Mattoidz yn cyfansoddi a pherfformio yn Iwerddon yn ddiweddar. Dyma fe i rannu o'i brofiadau o'r Ynys Werdd.

Mae Artswave yn fudiad sy'n hybu cysylltiadau rhwng artistiaid o Iwerddon a Chymru, ac ar 1 Ebrill ro'n i'n ffodus i gael fy ngwahodd i fynd i Waterford gyda nhw. Y bwriad oedd perfformio ac ysgrifennu caneuon gyda chyfansoddwyr Gwyddelig yno, ac yn cadw cwmni i fi roedd Hefin a Steve o Mattoidz a Fflur Dafydd o'r Panics.

Wrth adael ar y fferi o Ddoc Penfro gyda fy ngit芒r yn fy llaw, doeddwn i ddim yn rhy si诺r beth oedd yn fy nisgwyl!

Pwy welsom ni yn cerdded i lawr prif stryd Waterford ar 么l cyrraedd, ond y tri bardd Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd ac Ifor ap Glyn. Ar 么l sgwrs, dyma ddarganfod ein bod ni i gyd yn perfformio yn yr un gig y noson honno!

Cynhaliwyd y gig mewn ystafell fechan uwchben tafarn bach clyd y Phil Grimes ac er bod y beirdd wedi cyflwyno popeth yn Gymraeg, roedden nhw hefyd wedi cyfieithu eu gwaith er mwyn i'r gynulleidfa fod yn rhan o'r holl brofiad. Ein cyfle ni i berfformio oedd hi wedyn ac fe gawsom ymateb brwdfrydig iawn. Roedd hi'n braf gweld bod nifer o bobol ifanc yno ynghyd 芒 phobol h欧n ...a fyddai hyn wedi digwydd n么l gartref?

Dyma drosglwyddo'r awenau i gerddorion ifanc Waterford wedyn, a'n cyfle cyntaf i glywed y Gwyddelod roedden ni'n mynd i weithio gyda nhw dros y diwrnodau nesaf.

Dechreuais boeni wrth glywed y cerddor cyntaf - roedd y safon yn anhygoel! Ro'n i'n poeni y bydden nhw'n cymryd popeth yn rhy ddifrifol ond cawsom wybod yn ddigon cyflym - diolch byth - nad oedd hynny'n wir o gwbl! Aethom gyda'n gilydd i glwb nos i gloi'r noson - am brofiad swreal iawn - dawnsio i gerddoriaeth U2 gyda thri bardd o Gymru yn Waterford!

Fe wnaethom ni dreulio diwmod wedyn yn cyfansoddi cerddoriaeth gyda'n ffrindiau newydd o Iwerddon a chyda'r nos aethom i dafarn y Munster roedd barddoniaeth a cherddoriaeth draddodiadol Wyddelig yn cael eu perfformio.

Cawsom wahoddiad arall i berfformio yno, ac unwaith eto cawsom ymateb brwd a llawer o hwyl mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar iawn. Daeth y noson i ben gyda Hefin yn canu'r trydydd pennill o Sosban Fach wrth i oleuadau'r bar gael eu diffodd!

Yn dilyn diwrnod cyfan arall o gyfansoddi, daeth y cyfle i ni wrando ar ganeuon ein gilydd am y tro cyntaf. Roedd y canlyniad yn sioc i bawb! Llwyddwyd i greu dros ddeg c芒n newydd rhyngom ac roedd y safon yn uchel wrth ystyried prinder amser.

Bu'n fraint mynd i Waterford a rhannu cwmni gyda'r Gwyddelod - a'r Cymry yno! Fe wnaethom ni ddysgu llawer am ein gilydd, ac ers cyrraedd adref mae pawb wedi bod yn cyfansoddi mwy - wedi eu hysbrydoli gan y daith mae'n si诺r!

Roedd hi'n braf chwarae o flaen cynulleidfaoedd oedd yn gwerthfawrogi perfformiadau o gerddoriaeth fyw wreiddiol hefyd.

Ry'n ni'n gobeithio trefnu bod y Gwyddelod yn dod atom ni cyn hir ac yn gobeithio cynnig, croeso tebyg iddynt - felly cadwch lygad ar agor am bosteri i'r gigs!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy