大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!



Adar prin ar y Maes!
Nythu lle bydd y llwyfan!
Mae teuluoedd sydd wedi cartrefu ar faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe wedi achosi problemau annisgwyl i drefnwyr yr Brifwyl.

Gyda'r Pafiliwn yn cyrraedd y Maes yn ystod wythnos gyntaf Gorffennaf yr oedd nifer o adar eisoes wedi cartrefu yno a chodi teulu!

Cymryd gofal
Dywedodd Alan Gwynant, Swyddog Technegol yr Eisteddfod Genedlaethol, i bresenoldeb yr adar olygu mwy o ofal nag arfer wrth fynd ati i baratoi'r maes.

Dywedodd fod oddeutu 13 p芒r o gornchwiglod yno ond yn fwyaf arbennig mae yno hefyd gwtiaid torchog sydd yn adar eithaf prin yng Nghymru a chwtiaid torchog lleiaf sydd "yn brin eithriadol" meddai Alan.

"Mae hyn yn golygu ein bod wedi gorfod newid rhywfaint ar y drefn yr ydym yn gwneud pethau a dod o hyd i ffyrdd i'w diogelu," meddai.

"Mae un nyth yn union lle bydd llwyfan yr Eisteddfod," meddai.

Symud
Er mwyn sicrhau bod yr adar yn cael pob chwarae teg sicrhaodd yr Eisteddfod wasanaeth arbenigwyr a llwyddwyd i symud rhai nythod fesul tipyn heb i'r adar sylwi i ran ddiogelach o'r maes a hynny heb darfu ar yr adar.

Dywedodd Alan fod y cwtiaid yn adar sydd fel rheol yn nythu ar draethau caregog.

"Ond yn amlwg maen nhw wedi camgymryd maes yr Eisteddfod am un o'r rheini," meddai.

  • Oriel luniau Cliciwch


  • sunny Abertawe
    isaf 10掳C听听uchaf 15掳C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy