|
Bydd 大象传媒 Cymru yn darlledu o'r Eisteddfod bob dydd ar 大象传媒 Radio Cymru, S4C ac ar-lein.
Er bod pafiliwn newydd yn Abertawe wynebau cyfarwydd fydd yn sicrhau y bydd gwasaneth y 大象传媒 o'r maes yn well nag erioed.
Wedi'r cyfan fyddai hi ddim yn 'steddfod heb Hywel Gwynfryn ac eleni mae o'n dathlu deugain mlynedd ers iddo weithio yn ei eisteddfod gyntaf.
i ddarllen am ddeugain mlynedd Hywel.
Y babell L锚n Mae newyddion arbennig o dda i holl ddilynwyr y Babell L锚n eleni - am y tro cyntaf erioed bydd modd gwylio holl ddigwyddiadau ar S4C trwy wasgu'r botwm coch. Bydd camerau 大象传媒 Cymru yno'n darlledu'n fyw o'r babell o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ac fe fydd yna hefyd we ddarlledu byw o'r llwyfan.
Yn y Babell L锚n hefyd y cynhelir gornest derfynol Talwrn y Beirdd Radio Cymru ddydd Sadwrn ac fe'i darlledir nos Sul (Awst 6).
Jonsi a Grav Jonsi sy'n cadw cwmni i'r rhan fwyaf o'r genedl ben bore ond, yn ardal y de-orllewin, Grav 'West is Best' sy'n darlledu am 8.30am. Bydd cyfle i eisteddfotwyr Abertawe gael blas ar raglen foreol Ray Gravell wrth iddyn nhw wrando ar Radio Cymru yn yr ardal.
Bydd y ddwy raglen yn cael eu darlledu'n fyw o babell 大象传媒 Cymru ar y maes (Llun-Gwener, Awst 7-11).
Ar y soffa Eleri Si么n fydd yn cadw'r soffa'n gynnes yn y stiwdio wrth i westeion arbennig ymuno 芒 hi i drafod y cystadlu a digwyddiadau'r brifwyl.
Caiff person ifanc gwahanol y cyfle i ymuno 芒 hi bob diwrnod i gyflwyno adroddiad o'u heisteddfod hwy.
Bydd Magi Dodd a'i sodlau uchel yn crwydro'r maes a Nia Lloyd Jones yn fyw o gefn llwyfan.
Tocyn wythnos Beti George fydd yn edrych yn pwyso a mesur digwyddiadau'r diwrnod yn Tocyn Wythnos (Sadwrn-Gwener, Awst 5-11) a bydd cyfle i glywed barn ambell i feirniad answyddogol yn ogystol 芒 sgwrs ag enillwyr y prif seremoniau a danteithion o'r Babell L锚n.
Ar S4C Yn cadw cwmni i wylwyr S4C fydd Huw Llywelyn Davies, Alwyn Humphreys a Sara Evans a fydd yn dilyn y cystadlu ar y llwyfan gan ddarlledu'r holl berfformiadau a'r beirniadaethau'n fyw tra bydd Sh芒n Cothi a Gareth Wyn yn profi'r cyffro tu cefn y llen.
Hel clecs a newyddion y dydd o gylch y maes fydd Tara Bethan a Mari Lovegreen. Gyda'r nos bydd cyfle i fwynhau rhaglen o uchafbwyntiau wrth i Rhun ap Iorwerth fwrw golwg yn 么l ar ddigwyddiadau'r dydd.
Oedfa'r Bore Ar y Sul agoriadol yr Eisteddfod bydd Cymry o bob cwr o'r wlad yn dod ynghyd am Oedfa'r Bore.
Thema'r oedfa fydd Cenedl, Cymuned a Chyfiawnder a cheir myfyrdod gan yr Archesgob Rowan Williams a chyflwyniadau gan bobl ifanc Ysgolion Sul yr ardal a Ch么r yr Eisteddfod dan arweiniad Alun Tregelles Williams.
Ef hefyd fydd yn arwain Cymanfa Ganu'r Eisteddfod gyda'r hwyr.
Bob bore ar y Post Cyntaf bydd Gwilym Owen yn cymryd ei olwg arbennig ei hun o hynt a helynt yr 糯yl a bydd y sgyrsiau hynny ar gael i'w darllen wedyn ar y wefan hon.
Os na fedrwch chi gyrraedd safle'r eisteddfod eleni peidwich 芒 phryderu - chollwch chi ddim gyda 大象传媒 Cymru!
大象传媒 Radio Cymru bbc.co.uk/radiocymru
Eisteddfod Genedlaethol, Sadwrn, Awst 5, 2pm; Sul, Awst 6, 3pm;
Llun-Gwener, Awst 7-11,11am a 2pm
Tocyn Wythnos, Sadwrn, Awst 5, 6.30pm; Llun-Gwener, Awst 7-11, 6.15pm
Oedfa'r Genedlaethol, Sul, Awst 6, 11.30am
Y Talwrn, Sul, Awst 6, 5.15pm
Cymanfa'r Eisteddfod, Sul, Awst 6, 8pm
Grav/Jonsi, Llun-Gwener, Awst 7-11, 8.30am
大象传媒 Cymru ar S4C
Eisteddfod Genedlaethol 2006
Sadwrn, Awst 5, 4pm a 8.30pm; Sul, Awst 6, 12pm, 4.15pm a 7.15pm
Llun, Awst 7, 3pm a 8.50pm; Mawrth, Awst 8, 2.45pm a 8.50pm
Mercher, Awst 9, 2.45pm a 6.45pm; Iau, Awst 10, 2.45pm a 8.25pm
Gwener, Awst 11, 2.30pm, 6.30pm a 9.30pm
Oedfa'r Bore:Eisteddfod Genedlaethol 2006, Sul, Awst 6, 10.30am
Cymanfa Ganu:Eisteddfod Genedlaethol 2006, Sul, Awst 6, 8pm
Gwell nag erioed ar y we
Steddfodau da a drwg
Deugain mlynedd Hywel
|
|