大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwilym Owen o'r maes: dydd Gwener
Bu Gwilym Owen yn darlledu ar y Post Cyntaf yn ystod yr wythnos. Dyma ei gyfraniad olaf . . .
Cyfarchion am y tro ola o faes Felindre gyda Phrifwyl y Jacs dwy fil a chwech yn tynnu ei thraed ati.
Prifwyl lle clywyd un o w欧r busnes mwyaf llwyddiannus Cymru yn rhoi pin yn swigan hunan bwysigrwydd Dinas Caerdydd ac yn mentro eu galw yn fwli mawr Cymru.
Geiriau arwyddocaol. Prifwyl lle nas gwelwyd yr un copi o'r Daily Post yn agos i'r maes. Rhag cywilydd Trinity Mirror.

  • Prifwyl a roes bwysigrwydd mawr i bobl cyfraith a threfn ar y maes.
    Prif Farnwr Cymru yn dod yma i alw am fwy o garchardai a Phrif Gwnstabl Gogledd Cymru yn cael gwisg wen yn yr Orsedd.

  • Prifwyl lle cefais i'r teimlad fod yna fwy o gyfryngis a'u technegwyr yn cerdded o gwmpas y maes llychlyd caregog yma nag oedd yna o feirdd a chantorion.
    Ai eu g诺yl nhw ydi hi bellach?

  • A hon oedd y Brifwyl ble bu'r Archdderwydd yn cicio tinau gorseddogion tebyg i mi a dderbyniodd yr anrhydedd o berthyn i'r Cylch Cyfrin ond sydd byth yn presenoli ein hunain yn y seremon茂au.

    Ond howld on Mr Archdderwydd meddwn inna. Beth ddigwyddai pe byddai'r saith gant o aelodau'r Orsedd yn ymddangos y flwyddyn nesa?

    Does gan yr Orsedd ddim ond rhyw bum cant o gobenni yn 么l Meistres y Gwisgoedd ar Radio Cymru. Felly Selwyn Iolen, gofal piau hi cyn mynd ar gefn eich ceffyl!

  • Dyma Brifwyl hefyd lle clywais un o'r beirniaid yn cyhoeddi mai crap oedd geiriau un darn gosod cerddorol. Ond cofiwch doeddwn i ddim i fod i glywed y fath ddatganiad tanllyd.

  • Ar nodyn tristach mae'n ofid gorfod nodi mai hon oedd y Brifwyl gyntaf ers dros ddeugain mlynedd lle nas gwelwyd cynrychiolaeth o deledu masnachol ar y Maes.

    Dros y degawdau mae rhywun yn cofio prysurdeb cynhyrchiol cwmn茂au T.W.W. a HTV Cymru, a bellach dim o gwbwl.
    Trist iawn!

    A'n gwaredo
    A r诺an mwy o dristwch.
    Yn y Brifwyl hon y clywais i bobl ymddangosiadol gall yn awgrymu fod y ddeuawd Glyn Wise ac Imogen Thomas o dy'r Brawd Mawr wedi cyfrannu mwy at ddyfodol Cymreictod na hyd yn oed y Steddfod ei hun.
    Os gwir hynny, Duw a'n gwaredo.

    Datgloi'r drws
    Hon oedd y Brifwyl hefyd lle gwrthodwyd croeso swyddogol y llwyfan i'r Cymry alltud.
    Digon yw digon meddai'r Sanhedrin a chloi y drws.
    Ond heddiw yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn ceisio ei ddatgloi!

    Dan draed y Wasg
    A dyna'r 糯yl i mi.
    Ond sut y bydd Nedwyn John, y ci bach cysglyd, yn cofio Steddfod y Jacs?
    Holais o yn ei wely dan y bwrdd yn ystafell y wasg. Ac, wel, medda fo;
    Y cyfan ydw i wedi'i weld ydi degau o draed llychlyd, chwyslyd, hen hacs eisteddfodol yn pasio heibio nhrwyn i. Ach a fi! Dwi isio mynd adref.
    Amen, meddwn innau - ar ei ran ef a minnau.
    Da bo chi o Faes Felindre

  • Cliciwch ar y diwrnod i ddarllen cyfraniadau eraill Gwilym Owen - gan gynnwys yr un y bu'n rhaid ei hepgor fore Iau.


  • Mwy o storiau Dydd Gwener

    sunny Abertawe
    isaf 10掳C听听uchaf 15掳C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy