大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tangwystl Adolygiad - gig nos Sadwrn
Lowri Johnston sy'n adolygu gig agoriadol wythnos Eisteddfod '06.

Yn agor gigs Maes B Eisteddfod Abertawe eleni oedd Tangwystl, band sy'n datblygu'n gyflym ac yn dod o ardal Caerfyrddin. Mae nhw wedi bod yn gigio ers ryw flwyddyn a hanner bellach, ond dyma eu hymddangosiad cyntaf ym Maes B.

Mae nhw'n dechrau'r set gyda Ludwig Van sy'n cynnwys cello a ffidl yn cael eu chwarae'n gelfydd gan Annie ac Anna. Dyma ymddangosiad cyntaf Gareth ar yr ail git芒r ac er ei fod yn amlwg yn nerfus iawn, wrth i'r set fynd yn ei blaen mae'n ymlacio llawer ac yn ychwanegiad da iawn i'r band. Mae Sion, y prif leisydd, yn denu llygaid pawb at y llwyfan gyda'i egni trydanol ac mae'n neidio o gwmpas y lle fel nad yw yfory'n bod.

"Pwy?!"
Uchafbwyntiau y set oedd Coffi Cymraeg, Saith Pechod Marwol - sy'n g芒n newydd ac nad yw wedi ei orffen eto, mae'r potensial yn anferth - a Mabli, wrth gwrs. Mae gan bob band g芒n sy'n 'perthyn' iddyn nhw, a Mabli yw c芒n Tangwystl ( "Pwy?! Y ci! Y ci!" )

Cryfderau'r band yma yw eu amrywiaeth o ganeuon, does dim un g芒n yr un peth, ac mae'n nhw'n dangos y gallu i arbrofi gydag offerynnau a s诺n. Mae pedwar aelod sefydlog yn y band, a thri sydd ond yn ymddangos yn rhai o'r caneuon - sef chwaraewyr y cello, ffidl a'r ail git芒r. Mae hyn yn ychwanegu amrywiaeth i'r set a'i wneud yn fwy diddorol.

A s么n am fod yn aniddorol, dyna yn anffodus, yw fy marn am Vanta. Nhw sy'n ymddangos nesaf, ac er gwaethaf eu hymdrech i wneud y set yn un egn茂ol, dyw e jyst ddim yn gweithio. Mae pob aelod o'r band yn chwarae eu hofferynnau yn dda, ac mae nhw'n cydweithio'n dda, ond dyw'r caneuon ddim yn denu fy sylw o gwbl. Ac yn amlwg dim fi yw'r unig un sydd o'r farn yma gan fod canran fawr o'r gynulleidfa yn penderfynu gadael yng nghanol eu set, ac erbyn i Bob Delyn a'r Ebillion ymddangos, mae'r lle bron yn wag.

Paent a gwin coch
Bob Delyn a'r paent Rhaid dweud mai Bob Delyn a'r Ebillion yw un o fy hoff fandiau Cymraeg, a nhw yw'r band perffaith i orffen y noson i mi! Mae'r set yn llawn o'r ffefrynnau megis Tren Bach y Sgwarnogod, Ffair Bala, Yr Afon a Hen Wlad fy Nhadau i orffen. Ryw dri chwarter ffordd trwy'r set, tra bod Twm Morys yn cymryd swig go fawr o fotel gwin coch, mae dyn yn dod ymlaen i'r llwyfan ac yn dechrau arllwys paent drosto. Erbyn diwedd y g芒n mae ei siwt wen wedi ei orchuddio mewn paent o bob lliw, yn ogystal 芒'i delyn sy'n liw coch er gwaethaf ymdrechion Twm i beidio cael paent arno.

Yr unig drueni yw erbyn y diwedd doedd prin neb ar 么l yn gwylio Bob Delyn, ond roedd pawb oedd yno i'w gweld yn mwynhau.

Doeddwn i ddim yn hoff iawn o gynllun Maes B eleni. Roedd y gig nos Sadwrn ar y llwyfan lleia', sy'n lwyfan bach iawn. Does dim llawer o le i'r gynulleidfa i sefyll i weld y band, ac os ydych chi'n eistedd ar un o'r byrddau, mae bocs anferth pren yng nghanol yr ystafell yn rhwystro eich golygfa. Nid y cynllunio gorau o bell ffordd!

Ond dyma ddechrau da i wythnos sy'n addo i fod yn un bythgofiadwy. Awe i'r Eisteddfod felly!


Mwy o storiau Dydd Llun

sunny Abertawe
isaf 10掳C听听uchaf 15掳C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy