|
|
|
Apelio am gadw llywyddion y dydd a Chymry tramor Dau gynnig gan Hywel Teifi |
|
|
|
Bydd dau gynnig gerbron Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener yn galw ar yr aelodau i newid dau o benderfyniadau diweddar Cyngor yr Eisteddfod.
Bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn galw ar y Llys i ddweud wrth y Cyngor: am adfer areithiau llywydd y dydd i lwyfan yr Eisteddfod
i ailfeddwl yngl欧n a dileu y seremoni draddodiadol i groesawu Cymry tramor ar y llwyfan.
Mewn cyfarfod yn Aberystwyth yn gynharach eleni penderfynodd Cyngor yr Eisteddfod ddileu y ddau beth yma ond dywed Hywel Teifi Edwards fod y rhain yn benderfyniadau annoeth.
"Dydw i ddim yn amau am eiliad gymhellion awdurdodau yrEisteddfid - does gen i ddim dileit yn y math yna o beth. Rwy'n credu eu bod wedi gweithredu ar dir egwyddor ond dydw i ddim yn cytuno 芒 nhw felly rydw i eisiau i'r Llys cael cyfle i benderfynu ar y ddau beth yma," meddai wrth 大象传媒 Cymru@r Byd ar faes yr Eisteddfod.
Ac i'r perwyl hwnnw cyflwynodd ddau 'rybudd o gynnig' i'w hystyried gan aelodau'r Llys.
Am seremoni croesawu y Cymry tramor a fu'n cael ei chynnal ar ddydd Iau i seiniau Cofia'n Gwlad Benllywydd Tirion dros y blynyddoedd ers ei sefydlu ym Mhenybont-ar-Ogwr yn 1948 dywedodd:
"Roedd y seremoni hon yn rhan o theatr yr Eisteddfod Genedlaethol a thynnwch chi yr ap锚l theatrig allan o'r Steddfod ac mae llawer o'r ap锚l wedi mynd."
Ond pwysleisiodd nad oedd yntau yn gwbl hapus 芒 ffurf y seremoni fel ag yr oedd:
"Mae mor glir a'r dydd gen i y gellid gwella'r seremoni - ei diwygio yng ngwir ystyr y gair - ond nid dileu ydi diwygio," meddai gan alw am sefydlu pwyllgor i fynd ati i weld beth ellid ei wneud.
"Os nad yw'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymestyn ei dylanwad ledled daear gyda seremoni fel hon rwy'n barnu ein bod yn colli anferth o gyfle," meddai.
"Mae'n ddigon hawdd i ni ddweud fod rhywbeth yn arwynebol ac yn y blaen yn y seremoni ond pwy ydym ni i ddweud hynny - un o'r dadleuon yw fod y byd yn mynd yn fach a phobl yn mynd n么l ac ymlaen dipyn amlach erbyn hyn ond dadl ffals yw honna . Dim ond un llwyfan Eisteddfod Genedlaethol sydd yna ac rwyf i'n gweld y llwyfan hwnnw wedi bod yn un aruthrol bwysig lle mae drama y genedl Gymraeg yn bod ac rwyf eisiau gweld y peth yn parhau oherwydd hynny," meddai.
"Ac hyd y gwn i, anecdotaidd hollol yw'r dystiolaeth yn erbyn y seremoni - felly mae eisiau i'r Llys benderfynu," ychwanegodd.
Y llywyddion Mae yr un mor danbaid dros gadw areithiau llywyddion y dydd ar y llwyfan hwnnw hefyd gan gondemnio'r arbrawf tair blynedd y cytunodd y Cyngor arno.
"Mae llawer o areithiau llywyddion y gorffennol yn goleuo cyflwr diwylliannol - a seicolegol hefyd - y Gymru sydd ohoni," meddai.
"Rwy'n cofio'r sioc oedd hi i mi i ddarllen areithiau llywydd cyntaf cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, y Rheithor John Griffiths, Castell-nedd, a dechrau sylweddoli am y tro cyntaf gymaint o bwysau Saesneg oedd ar feddylfryd y Cymry yn y cyfnod.
"
Ond Gladstone, wedyn, yn dod i'r Wyddgrug yn 1873 ac yn codi'r genedl ar ei thraed dim ond wrth ddweud rhywbeth hollol syml fel ei fod yn credu fod y diwylliant Cymraeg yn rhywbeth gwerth chweil.
"Ac wrth gwrs mae pawb yn gwybod am arwyddoc芒d Lloyd-George," meddai.
Ond ychwanegodd nad yr areithiau "pro Gymraeg" sy'n bwysig fel rhan o'r darlun o Gymru gan i lywyddion ddwyn pwysau ar y Cymry i Seisnigo hefyd er mwyn dod ymlaen.
"Mewn Eisteddfod yn Aerystwyth, lle'r oedd llawer o'r gynulleidfa yn uniaith Gymraeg dywedwyd wrthyn nhw; 'Os ydych chi eisiau bwyta bara brown weddill eich hoes sticiwch at y Gymraeg ond os ydych eisiau bwyta bara gwyn dysgwch Saesneg'," meddai.
"Na, rwy'n credu fod y ddau beth - y seremoni a'r areithiau, o gymaint pwysigrwydd y mae eu dyfodol yn haeddu y math o drafodaeth y gellir ei chael yn Llys yr Eisteddfod," meddai.
|
|
|
|
|
|