大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Prys Morgan a Rhodri Morgan Stori garu Prys a Rhodri Morgan
Eu tad a mam yn syrthio mewn cariad yn Eisteddfod Abertawe 1926
Y mae i ymweliad yr Eisteddfod ag Abertawe arwyddoc芒d emosiynol iawn i'r ddau frawd, Rhodri Morgan - prif weinidog y Cynulliad - a'r Athro Prys Morgan - yr ysgolhaig a llywydd Eisteddfod 2006.

Mewn Eisteddfod yn Abertawe y syrthiodd tad a mam y ddau ohonyn nhw mewn cariad - a hynny yn ystod rhagbrofion cystadleuaeth offerynnol.

"Erbyn y chweched perfformiad yr oedd fy mam yn berffaith sicr ei bod mewn cariad ag ef," meddai Prys Morgan wrth adrodd yr hanes.

Yr oedd eisoes wedi dweud y stori ar raglen Beti a'i Phobl ar 大象传媒 Radio Cymru.

"Roedd fy nhad a mam yn fyfyrwyr gyda'i gilydd yng Ngholeg Abertawe," meddai Prys Morgan wrth Beti George.

"Roedd fy mam yn 24 a fy nhad yn 25 ac fe ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Victoria Park yn Abertawe yn 1926.

"Fe ofynnodd fy nhad i mam pe bydde hi yn fodlon dod i glywed profion y ffidil oedd yn Pafiliwn Patti, ar gornel y parc wrth ochr pafiliwn mawr y Steddfod.

"A dyma mam yn synnu braidd. Doedd hi ddim yn gwybod bod y bachgen cyffredin o'r Glais gyda diddordeb mewn miwsig.

"Dyma nhw yn clywed rhyw chwech o berfformwyr ac erbyn y chweched perfformiad roedd mam yn rhyfeddu bod bachgen cyffredin o'r Glais yn gallu hoffi C茅sar Franck gymaint ac roedd hi'n si诺r bod hi mewn cariad a'r bachgen yma," meddai.

Yn ystod ymweliad y ddau frawd 芒 maes yr Eisteddfod ddydd Llun ailadroddodd Prys Morgan y stori hon am ei fam 芒'r bachgen cyffredin a ddaeth yn un o ysgolheigion mwyaf blaen llaw y Gymraeg, T J Morgan.

Yn y gynhadledd hefyd bu'r ddau frawd yn s么n sut yr oedd y maes lle mae'r eisteddfod yr wythnos hon yn rhan o dir yr oedd y 'tylwth' yn ei amaethu.


Mwy o storiau Dydd Llun

sunny Abertawe
isaf 10掳C听听uchaf 15掳C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy