大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Golygfa o The Silent Village - dynion Cwmgiedd yn canu'r anthem genedlaethol Cyfoeth ffilmiau Cymru
Sesiynau yn y Babell L锚n
Bydd sylw arbennig yn cael ei roi i ffilmiau Cymreig o bwys yn y Babell L锚n, dri diwrnod yr wythnos hon.

Maent yn amrywio o ffilm a wnaed yn 1949 am y Noson Lawen i'r gyfres deledu gyfoes hynod o boblogaidd Con Passionate.

Dywedodd Gwenno Ffrancon, llefarydd ar ran pwyllgor gwaith y Babell L锚n ac awdur cyfrol bwysig am hanes y ffilm yng Nghymru, Cyfaredd%20y%20Cysgodion, mai'r bwriad yw, "rhoi lle haeddiannol i'r cyfryngau gweledol yn niwylliant Cymraeg Cymru."

"Mae hefyd yn gyfle i ddathlu rhai o gynyrchiadau gorau Cymru," meddai.

Bydd y sesiynau ddyddiau Mawrth, Mercher a Iau.

  • Dathliad o'r ffilm 'Noson Lawen' (1949) yng nghwmni dau o'r s锚r, Meredydd Evans a Cledwyn Jones.

    Mae hwn yn gyfle i weld rhai o s锚r y rhaglen radio boblogaidd ar y sgrin fawr.
    Mawrth. 1.00 o'r gloch.
    Noddir y dangosiad hwn gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

  • Dathliad o Con Passionate yng nghwmni Siwan Jones yr awdur, Paul Jones, cynhyrchydd, Rhys Powys, cyfarwyddwr, a William Huw sy'n actio yn y gyfres.

    Mae'r sesiwn hwn wedi ei drefnu ar y cyd gyda Cyfrwng. Lyn Lewis Dafis fydd yn cadeirio.
    Mercher, 10.00 o'r gloch.

  • Ed Thomas yn cyflwyno ei ffilm ddogfen a leolwyd yng Nghwmgiedd, Cwm Tawe, Y Pentre Mud sy'n deyrnged i ffilm Humphrey Jennings The Silent Village.

    "Lluniodd Jennings ei ffilm er cof am bentref Lidice yn y Weriniaeth Tsiec - pentref a ddinistriwyd yn llwyr gan y Natsiaid," meddai Gwenno Ffrancon sy'n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe.

    "Ymddangosodd trigolion Cwmgiedd yn ffilm Jennings ac mae ffilm ddogfen Ed Thomas yn cyfleu pa mor bwysig fu'r digwyddiad hwn yn hanes y pentref a'r berthynas agos sy'n bodoli rhwng y pentref yn Ne Cymru a phentref Lidice," ychwanegodd.
    Dydd Iau, 10.00 o'r gloch.

    "Bydd y tair sesiwn yn wahanol iawn i'w gilydd ond yn dangos y cyfoeth gweledol sydd gan Gymru," meddai.


  • Mwy o storiau Dydd Mawrth

    sunny Abertawe
    isaf 10掳C听听uchaf 15掳C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy