|
|
|
Gwilym Owen o'r Maes - Mawrth
|
|
|
|
Enaid eisteddfodol Cyfarchion o faes Felindre ar fore Mawrth.
A dwi'n falch o ddweud fod Nedwyn y ci bach unwaith eto wedi cyrraedd pabell y wasg.
A wyddoch chi be, mae o yn un mor ddiffygiol mewn brwdfrydedd eisteddfodol ag yr oedd o y llynedd.
Troi ei gefn a chysgu fydd hi am weddill yr wythnos iddo fo a breuddwydio am fod adref yn Sir F么n. Enaid bach doeth ryfeddol.
Prinder bandiau A doedd Nedwyn ddim wedi sylwi fel rhai o'r sylwebwyr fod yna brinder bandiau o Ogledd Cymru yn y brifwyl eleni.
Doedd band enwog Trefor hyd yn oed ddim wedi ymddangos.
Tybed a yw'r arweinydd wedi penderfynu fod sathru cyrn o Set y Gornel yn Y Cymro yn llawer mwy bendithiol na hyfforddi bois y band i chwythu eu cyrn hwy?
Addysg prifysgol
Clywed stori fach ddiddorol am daith gr诺p o blismyn iaith swyddogol y Brifwyl yn mynd o gwmpas y maes yma fore Sadwrn i arolygu Cymreictod y stondinau - a chael dipyn o sioc o ganfod mai stondin arlwywyr bwyd Indiaidd oedd wedi gwneud yr ymdrech orau.
Ond y llwy bren yn mynd i Brifysgol Bangor a lwyddodd i gamsillafu y gair University. O diar, diar.
Ceisio lloches Wn i ddim a oes yna wirionedd yn y sibrydion y bydd yna loches arbennig ar gyfer gwragedd sy'n cael eu curo gan eu gw欧r yn cael ei hagor ar y maes carafannau.
A hynny am fod y Sanhedrin wedi caniat谩u i'r g芒n honedig ofnadwy Tafarn y Rhos sy'n moli trais meddwl gw欧r at eu gwragedd gael ei chanu ar lwyfan y Steddfod.
Gwarthus meddai'r ffeministiaid.
Corff corfforaethol? Pasio stondin Bwrdd yr Iaith Gymraeg pan ofynnodd rhywun imi a oedd y Cwango iaith yn dal mewn bodolaeth. Yr awgrym oedd mai dim ond y Cadeirydd sydd 芒 hawl i fod yn ei swydd bellach gan fod tymor aelodaeth y gweddill wedi dod i ben.
Felly, y cwestiwn ydi a ddylai'r Bwrdd fod yn cyfarfod o gwbl fel corff? Dim ond gofyn.
Mewn da bryd
Llongyfarchiadau r诺an i'r Prif weinidog hoff am lwyddo i gyrraedd cynhadledd i'r wasg ar yr union amser penodedig fore ddoe.
Ond efallai y dylwn ddweud bod ei frawd h欧n yn cadw cwmni iddo - sy'n awgrymu efallai fod yr Athro Prys Morgan yn gallu dweud faint o'r gloch yw hi yn well na'r Prif weinidog Rhodri.
Ac o gofio'r gorffennol dydi hynny fawr o gamp.
Detio Ond i ddod yn 么l at y plismyn iaith a fu'n chwynnu'r stondinau. Oni alle nhw fod wedi dechrau wrth eu traed a sylwi ar y pechod ar glawr Rhaglen y Dydd.
Be welwch chi ond Abertawe a'r Cylch, August 5th to the 12th. Och gwae - onid oes eisiau deryn gl芒n i ganu!
A dyna le da i minnau gau fy mhig am y tro.
|
|
|
|
|
|