大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dafydd Johnston Dafydd ap Gwilym digidol
Am y tro cyntaf erioed, bydd gwaith Dafydd ap Gwilym i'w weld yn ei gyfanrwydd ar y we.

Tynnwyd sylw at y datblygiad hwn gan Dafydd Johnston yn narlith lenyddol Eisteddfod 2006.

Ef yw cyfarwyddwr prosiect unigryw ac arwyddocaol Dafydd ap Gwilym Digidol.

Ers chwe blynedd bellach, bu t卯m o wyth yn golygu cerddi Dafydd ap Gwilym o'r newydd, yn eu haralleirio, cyfieithu i'r Saesneg a chreu clipiau sain o amryw o bobl yn darllen y cerddi.

Bwriad y cynllun yw "cyhoeddi golygiad electronig ar wefan agored y flwyddyn nesaf, a honno'n wefan amlgyfrwng, gyda deunydd gweledol a chlywedol yn ogystal 芒'r testunau gwreiddiol," meddai Dafydd Johnston sy'n Athro yn adran y Gymraeg yn Abertawe.

Er bod technoleg electronig wedi dod yn gyfrwng mwy poblogaidd i gyflwyno llenyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, esboniodd Dafydd Johnston yr hyn sy'n arbennig am y prosiect yma;

Yn eithaf prin
"Mae'r math o olygiad electronig sydd gennym ni ar y gweill yn dal i fod yn eithaf prin, sef un sy'n cynnwys testunau newydd wedi'u creu yn bwrpasol, ynghyd ag adnoddau amlgyfrwng i'w cyflwyno, ac sydd wedi'i anelu at y defnyddiwr cyffredin yn ogystal 芒'r academydd."

Yr hyn sy'n sylfaenol wahanol i bob golygiad arall o waith Dafydd ap Gwilym sy'n bodoli yn barod yw taw t卯m sy'n gyfrifol amdano yn hytrach na unigolyn.

"Testun delfrydol"
Mantais defnyddio'r wefan i gyflwyno'r wybodaeth yw y bydd hi'n bosib targedu grwpiau gwahanol o gynulleidfa ar un wefan, heb iddynt amharu ar ei gilydd, gan mai'r darllenydd sydd yn dewis pa dudalenau mae eisiau eu gweld.

"Mae Dafydd ap Gwilym yn destun delfrydol ar gyfer golygiad electronig oherwydd natur ei waith, a hynny am fod s诺n ei farddoniaeth mor bwysig, am fod yr elfen weledol mor flaenllaw yn ei waith, ac am fod ei gerddi mor benagored ac ansefydlog," meddai.

Er i Dafydd Johnston sicrhau'r gynulleidfa ei bod yn fwriad pendant ganddynt i gyhoeddi cyfrol brintiedig yn y man, y golygiad electronig sy'n cael y flaenoriaeth ar hyn o bryd.

Maes llafur lefel-A
"Nid yw golygiad electronig mor derfynol 芒 llyfr printiedig. Mae'n llawer mwy hyblyg, ac mae modd ei addasu yng ngoleuni gwybodaeth neu syniadau newydd."

Bydd sylw arbennig yn cael ei roi ar y wefan i ddau gywydd Dafydd ap Gwilym sy'n ymddangos ar faes llafur Lefel-A.

Mae'r t卯m yn gobeithio y bydd y golygiad electronig yn agor y farddoniaeth i garfannau newydd o ddarllenwyr, a'i chyflwyno'n destun agored i'w drafod a'i ddehongli, ac o bosib ei addasu yn sgil ymateb defnyddwyr.

"Ac yn hynny o beth efallai ein bod yn dychwelyd mewn ryw ffordd at amodau gwreiddiol perfformio a throsglwyddo'r cerddi."

Bydd y wefan yn cychwyn yn swyddogol fis Ebrill 2007 ond am fwy o wybodaeth ewch i babell Prifysgol Abertawe yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol 2006.


Mwy o storiau Dydd Mercher

sunny Abertawe
isaf 10掳C听听uchaf 15掳C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy