|
|
|
Dyfed yn ymddeol Ugain mlynedd o redeg Stafell y Wasg |
|
|
|
Yr oedd hyd yn oed yr hen hacs sinigaidd sy'n selog fynychu Ystafell y Wasg yn yr Eisteddfod Genedlaethol dan deimlad wrth i wythnos Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ddirwyn i ben.
Hacs sinigaidd geiriau a lluniau yn gorfod cydnabod pang o emosiwn a phigiad teimlad wedi i gyfaill ddweud ei fod yn cadw'i bensil steddfodol ac yn ildio'i orsedd ym mhen pellaf yr ystafell.
Bu sibrydion ers dechrau'r wythnos mai hon fyddai "Steddfod ddwytha Dyfed" fel Swyddog y Wasg gwirfoddol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gwyddai ambell un ohonom yn well; a bod y sibrydion, yn anffodus, yn wirionedd - er bu'n rhaid disgwyl tan fore Gwener am y cyhoeddiad swyddogol a derbyniad teimladwy yn un o bebyll y maes.
Dros ugain mlynedd Bu Dyfed Evans o Bencaenewydd ger Pwllheli yn gwneud y gwaith gwirfoddol hwn ers dros ugain mlynedd gyda'i briod, Doris, yno hefyd gydol y blynyddoedd yn cynnal ei freichiau.
Gwaith a olygai redeg ystafell y wasg yn ystod wythnos yr Eisteddfod a sicrhau fod canlyniadau pob cystadleuaeth wedi eu gosod ar y wal o fewn munudau i draddodi'r feirniadaeth i'w cyhoeddi drennydd mewn papurau newydd.-
Mae'n ystrydeb dweud na fydd rhyw sefydliad byth yr un fath eto wedi i rhyw unigolyn ei adael. Yn achos Dyfed a Doris mae'r ystrydeb yn ffaith a fydd Ystafell y Wasg byth yr un fath eto.
Maen nhw'n s么n am gael sgr卯n yn ei le o i ddangos canlyniadau. Ond waeth ichi heb na gofyn i sgr卯n roi canlyniad funud neu ddau ynghynt ichi am eich bod ar frys.
Na gofyn iddo ydi hi'n wir fod un cystadleuydd yn perthyn i wraig y beirniad.
Fydd sgr卯n ddim yn medru dweud wrthych chi chwaith pwy oedd taid yr ymgeisydd ddaeth yn ail ac iddo fo faglu yn y mwd yn Eisteddfod Lle a'r Lle ar ei ffordd i gystadlu ar yr un gystadleuaeth yn eisteddfod wleb Un Naw bechingalw.
Fydd sgrin, chwaith ddim yn medru gweiddi arno chi gau'r drws ar eich hol!
Adnabod y Steddfod Gan fod cysylltiad Dyfed a'r Eisteddfod yn ymestyn yn 么l lawer iawn mwy nag ugain mlynedd ei ddyletswyddau yn ystafell y Wasg mae'n adnabod eisteddfotwyr yn well na neb.
Ar ben hynny mae'n gwybod pa ochr i ba stori sy'n mynd i apelio at ba ohebydd. Wedi'r cyfan nid yr un yw gofynion Y Cymro, dyweder, a rhai'r Daily Post y Western Mail neu pa bynnag un yw papur lleol bro'r brifwyl o flwyddyn i flwyddyn.
Dim rhyfedd ei fod yn deall onglau straeon - bu'n ohebydd ei hun am flynyddoedd yn riportio'r Genedlaethol, a Chymru, ar gyfer Y Cymro ers ei benodi'n ohebydd gan y diweddar John Roberts Williams.
Mae'n cofio'r Brifwyl yn cael ei mynychu gan fawrion y wasg Gymraeg a Fleet Street pan oedd o'n ohebydd ifanc: Hannan Schwafer ac E Morgan Humphreys a Charadog Prichard yn ff'reta straeon am y gorau.
A phapurau mor amrywiol a'r Mirror a'r Telegraph a'u seddau eu hunain ym mlaen y pafiliwn - ond y ddwy sedd orau wedi eu neilltuo i'r Cymro a'r Faner.
Troi'n athro Yr oedd Dyfed yn dal yn ohebydd ar Y Cymro pan ddechreuais i ar y papur ac rwy'n dal i gofio ei 'gopi' mewn llawysgrifen pensil yn cyrraedd drwy'r post - a'r un yw ei ddull o gyfansoddi hyd yn oed heddiw, ac yntau'n awr, yn un o olygyddion papur bro Y Ffynnon; gyda phensil - a rwber wrth law i ddileu unrhyw gamgymeriad.
Er iddo adael newyddiaduraeth broffesiynol ddiwedd y chwedegau i'w hyfforddi'n athro mae'r inc yn dal yn y gwaed a'r hwyliogrwydd newyddiadurol yn parhau.
Ond er i gysylltiad Dyfed ag ystafell y wasg ddod i ben mae'n cynllunio'n barod ar gyfer mynychu Eisteddfod Yr Wyddgrug y flwyddyn nesaf.
"Yno, mi gai dreulio mwy o amser yn y Babell L锚n a gwneud y petha yr ydw i eisiau eu gwneud mewn steddfod. Mi rydw i'n edrych ymlaen," meddai.
Ac mae'n llawn haeddu'r hamdden i gael gwneud hynny. Ond Duw a 诺yr sut y down ni ymlaen hebddo fo.
Ar gyfer dweud gair mewn cyfarfod lle cyflwynodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, anrheg iddo gan yr Eisteddfod a ni'r newyddiadurwyr, lluniais y llinell: "I Dyfed mae ein dyled". Llinell sydd cyn gywired mewn ffaith ag yw hi o wallus ei chynghanedd.
Does ond diolch fod Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg wrth law hefyd i lunio dau englyn i Dyfed a Doris - a'r rheini yn englynion cywir o ran ffurf yn ogystal 芒 chynnwys.
Diolch Dyfed. Glyn Evans
|
|
|
|
|
|