|
|
大象传媒 Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonSeiniau Celtaidd i godi ofn11 Awst 2007Offeryn dychryn ar ffilmiau Heddiw, mae seiniau hen offeryn cerddorol Celtaidd sy'n dyddio'n 么l ddwy fil o flynyddoedd i'w clywed ar faes yr Eistedddfod. Mae'r 'carincs' wedi ei seilio ar ben baedd Deskford a gafwyd yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban ac fe'i hail gr毛wyd ar sail corn rhyfel Celtaidd yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban. Defnyddiwyd yr offeryn ym mhob cwr o'r byd Celtaidd i codi ofn ar elynion. Yn ei ddydd, dyma'r offeryn mwyaf swnllyd yn y Byd! Yr wythnos hon caiff ei chwarae i greu sain i nifer o ffilmiau animeiddio a welir yn Y Pair ar faes yr Eisteddfod gyda sylw penodol i chwedl Culwch ac Olwen a Branwen. "Treuliodd yr artist Sean Harris a'r cerddor John Kenny ddwy flynedd yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru, Amgueddfeydd Cenedlaethol Yr Alban, Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon a disgyblion ysgol o'r tair gwlad yn creu'r gwaith celf unigryw hwn," meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod. Bydd y ffilmiau i'w gweld y tu allan i'r Lle Celf am dri a phedwar heddiw. Categori
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |