'Rhanbarth ymylol? Y gogledd ddwyrain yn hanes Cymru' oedd testun ei ddarlith a siaradodd am duedd gweddill Cymru i ystyried yr ardal hon fel atodiad i Gymru, ac yn aml, fel rhan o Lannau Merswy.
Pam felly fod siroedd Fflint a Dinbych, sef yr hen Glwyd, wedi cael eu trin fel rhanbarth ymylol o Gymru?
Tynnodd John Davies sylw at y ffaith nad oedd gan gangen o unrhyw un o sefydliadau cenedlaethol Cymru gartref yn y gogledd ddwyrain - nid oes Prifysgol yma, dim cangen o'r Amgueddfa Genedlaethol ac, er fod yr ardal hon yn llawer mwy poblog na'r gogledd orllewin, ym Mangor y dewisodd y 大象传媒 sefydlu ei bencadlys yn y gogledd.
Dywedodd ei fod wedi ei argyhoeddi bod y driniaeth ymylol mae'r ardal wedi ei gael yn sylfaenol annheg ac aeth ymlaen: "hanfod fy nadl yw bod y gogledd ddwyrain ddim yn atodiad i weddill Cymru; yn hytrach, y mae gweddill Cymru yn atodiad i'r gogledd ddwyrain."
Y dant cyntaf
Mae'r dystiolaeth yn mynd yn 么l i'r dechreuad meddai. Yn yr ardal hon y cafwyd y dystiolaeth gynharaf o fodolaeth dyn yng Nghymru: haerwyd bod y dant dynol a ganfuwyd yn Ogof Bontnewydd yn Nyffryn Elwy wedi bod 'yng ngheg y Cymro cyntaf' (er mae'n debyg y profwyd yn nes ymlaen mai dant dynes ydoedd!).
Yn yr Oes Neolithig, carnedd fwyaf y cyfnod yng Nghymru oedd y Gop sydd uwchben Trelawnyd a'r dystiolaeth orau yn Ewrop o waith celfyddydol yr Oes Efydd ydy clogyn aur yr Wyddgrug y daethpwyd o hyd iddo yn 1833. Mae'r bryngaerau yn Ninorben, Penycorddyn-mawr, Llanymynech, y Breiddyn a Ffridd Faldwyn yn rhai o henebion cynhanesyddol gwychaf Prydain ac yn dangos ei bod yn ardal ddigon datblygedig i allu cynnal cymunedau lled-drefol yn y cyfnod hwnnw.
O adeg y Rhufeiniaid, drwy gyfnod y Tywysogion hyd at wrthryfel Owain Glydwr, g诺r oedd yn byw ger y ffin yn Sycharth, mae'r ymrafael am reolaeth dros y gogledd ddwyrain wedi bod yn allweddol i lwyddiant neu fethiant Cymru fel undod gwleidyddol.
Beirdd yr Oesoedd Canol
Anaml iawn hefyd y cydnabyddir gyfraniad mawr yr ardal i lenyddiaeth Gymraeg gynnar. Gwnaeth yr ardal hon gyfraniad allweddol i lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Gan ei bod yn un o ranbarthau mwyaf cefnog Cymru oherwydd ei thir ffrwythlon a'i diwydiant gwl芒n a phlwm ffyniannus yn y 15fed ganrif, roedd tai bonedd yn yr ardal oedd yn medru noddi beirdd y cyfnod.
Yn ystod 'canrif fawr llenyddiaeth Gymraeg', o'r gogledd ddwyrain y deuai'r rhan fwyaf o feirdd amlycaf y cyfnod: Tudur Aled, Guto'r Glyn, Gutyn Owain, Iolo Goch a Dafydd ab Edmwnd - beirdd oedd yn ddibynnol ar nawdd boneddigion fel Hywel ap Dafydd o Laneurgain, 'prif ganolfan noddi beirdd Cymru'.
Heb y gogledd ddwyrain chwaith, meddai John Davies, fyddai Cymru ddim wedi profi'r Dadeni, sydd, o ran hanes y cyfnod yng Nghymru, 'yn ei hanfod yn bennod yn hanes siroedd Dinbych a Fflint', meddai.
Dyma gyfnod pensaern茂aeth arbennig yn Nhreffynnon, Wrecsam a Gresffordd ac arwyr o'r ardal sydd wedi cyfrannu cymaint i fywyd diwylliannol Cymru: William Morgan, William Salesbury, John Davies Mallwyd, Richard Clough a Thomas Hanmer. Ni ddaeth diwylliannau'r ieithoedd Celtaidd eraill dan ddylanwad y Dadeni a heb y gogledd ddwyrain, fyddai pobl Cymru ddim wedi dod dan ei ddylanwad chwaith, dadleua John Davies - rhywbeth sy'n ein gosod ar wah芒n i'r gwledydd Celtaidd eraill.
Saith rhyfeddod Cymru
Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd llawer o ymwelwyr llengar yn ymweld 芒'r gogledd ddwyrain - George Borrow efallai ydy'r enghraifft amlycaf a dreuliodd bron i hanner ei gyfnod yng Nghymru yn Llangollen. Mae rhigwm Saesneg o'r cyfnod am 'saith rhyfeddod Cymru' yn enwi llefydd sydd i gyd, ar wah芒n i'r Wyddfa, yn y gogledd ddwyrain:
Pistyll Rheadr and Wrexham steeple,
Snowdon's mountain without its people,
Overton's yew trees, St Winifred's wells,
Llangollen's bridge and Gresford's bells.
Un o'r rhesymau am y ffaith fod yr ardal wedi agor allan i dwristiaid oedd bod yr ardal yma'n un o'r rhai cynharaf yng Nghymru i adeiladu ffyrdd tyrpeg oedd yn cysylltu'r ardal 芒 gweddill Prydain.
Wedi cyfrannu mor amlwg at ddiwylliant Cymraeg yn yr Oesoedd Canol a chyfnod y Dadeni, yn y gogledd ddwyrain hefyd roedd gwreiddiau'r mudiad a roddodd fod i'r Eisteddfod Genedlaethol: yma roedd eisteddfodau Caerwys yn sail i'r traddodiad eisteddfodol.
Diwydiant
Gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol, de ddwyrain Cymru sy'n cael y sylw fel canolfan diwydiant Cymru ond, meddai John Davies, 'mae lle i haeru fod y diwydiannu yn y gogledd ddwyrain wedi bod yn gynt ac yn fwy sylfaenol na'r diwydiannu yn y de ddwyrain.'
脗'r ardal yn amddifad o gangen o'r Amgueddfa Genedlaethol, dywedodd John Davies y byddai'r Bers ger Wrecsam yn lleoliad delfrydol ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol i'r Diwydiant Haearn yng Nghymru.
Yn y Bers roedden nhw'n smeltio haearn gyda golosg yn hytrach na siarcol yn 1721, ddegawdau lawer cyn iddyn nhw fabwysiadu'r system hwnnw yng ngweithfeydd dur Merthyr.
Yng Ngwenffrewi yn 1774 roedd 19 o wahanol weithfeydd diwydiannol o fewn pellter o ddwy filltir ac erbyn heddiw mae'r ardal yma, Maes Glas, 'i bob pwrpas yn amgueddfa ddiwydiannol awyr agored'.
Gorffennodd John Davies ei araith gyda'r geiriau hyn:
"Mi ddechreuais weithio ar hyn o lith yn y gred y byddai Cymru, heb y gogledd ddwyrain, yn wlad gryn dipyn yn dlotach. Wrth weithio ar y pwnc, mi ddes i'r casgliad hwn: heb y gogledd ddwyrain, ni fyddai Cymru, mewn unrhyw ffordd ystyriol, yn bodoli o gwbl."
Mae cop茂au o ddarlith John Davies, Rhanbarth Ymylol?, i'w cael am 拢5 gan y Sefydliad Materion Cymreig.