Tenor opera
Dechreuodd Gwyn Hughes Jones ar ei yrfa ganu fel bariton ac astudiodd yn Llundain, yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall a'r Stiwdio Opera Genedlaethol.Fel Bryn Terfel o'i flaen, fe enillodd wobr bwysig Kathleen Ferrier ym 1992. Enillodd hefyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Neue Stimmen yn Gtersloh, gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru i gantorion ifanc o Gymru ym 1996 ac fe gynrychiolodd ei wlad yn rownd derfynol Canwr y Byd yn 1997.
Ond tenor ydy Gwyn bellach, ac mae'n astudio efo David Pollard.
Dechreuodd ei yrfa broffesiynol operatig gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn canu Ismaele Nabucco. Mae wedi perfformio droeon gyda'r Cwmni fel y Dug yn Rigoletto a Don Giovanni yn Faust gan Gounod.
Rhoddodd ei berfformiad cyntaf yn Ewrop fel Camille de Rossillon yn Die Lustige Wite gyda chwmni Opera National de Paris yn 1991 ac yn America fel Fenton Falstaff i Opera Lyric Chicago.
Ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa mewn cyngherddau, roedd ei berfformiad o Ode to Joy o Symphony Rhif 9 gan Beethoven yn seremoni agoriadol Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Nagano Japan a pherfformiad gala yn Teatr Amazonas, Manaus, Brazil.
Fe ymddangosodd yn sioe Proms y 大象传媒 am y tro cyntaf yn 2001 yn canu yn Serenade to Music, Vaughan Williams, ar y noson gyntaf.
Mae wedi recordio Curlew River gan Britten i Collins Classics yn ogystal 芒 dwy CD ar label Sain.