Gwireddwyd y freuddwyd nos Sadwrn, 23 Ebrill wrth iddo berfformio rhan Pinkerton yn Opera Puccini, Madam Butterfly. Cafodd dros gant ohonom, Teithwyr Gwyn, trwy drefniant Enid Jones, y fraint o fod yno. Gyda gwefr wrth ddarllen y rhaglen swmpus gwelsom yr enw Gwyn Hughes Jones yn rhestr prif artistiad y tymor yng nghwmni Cecilia Bartoli, Placido Domingo, Rene Fleming ac Angela Gheorgiu a'i gyd-Gymry Ryland Davies, Rebecca Evans, Eirian James, Della Jones, Mary Lloyd Davies a Bryn Terfel. Stori drist sydd i Madam Butterfly ond un yn seiliedig ar sefyllfa hollol wir yn Siapan dros gan mlynedd yn 么l. Swyddog yn Llynges yr Unol Daleithiau yw Pinkerton sydd wedi ei swyno gan Cio-Cio-San, hogan ifanc ddiniwed gyda phrydferthwch yn ymdebygu i'r pili-pala. Er i'r llysgennad, Sharpless, geisio ei ddarbwyllo mae Pinkerton yn mynnu ei phriodi gan wybod na fyddai hynny yn ei rwystro rhag priodi yn ei wlad ei hun. Er gwaethaf holl wrthwynebiad ei theulu a'i chyfeillion mae Butterfly yn syrthio mewn cariad 芒'r arwr rhamantus hwn. Mae Pinkerton yn diflannu a'r blynyddoedd yn mynd heibio gyda'r hogan yn dyheu am arwydd fod ei harwr yn dychwelyd gan ganu'r enwog Un Bel Di - un diwrnod braf bydd yn dod yn ei 么l. Mae Sharpless yn ymddangos gyda llythyr oddi wrth Pinkerton yn cynnwys y newydd ei fod wedi priodi Americanes ac na fyddai'n dod yn 么l i Siapan. Wrth weld fod gan yr hogan blentyn nid oes ganddo'r galon i ddatgelu'r newydd ofnadwy ac mae'n crefu ar Susuki'r forwyn i wneud hynny. Serch hynny mae'n gorfodi Pinkerton i ddychwelyd ac y mae yntau'n gaddo dwyn y plentyn i fyny. Yn ei thristwch a'i galar y mae Butterfly'n cyflwyno'r plentyn iddo ond, yn anabl i wynebu'r gwarth a'r feirniadaeth oddi wrth ei theulu, mae'n lladd ei hun. Marina Mescheriakova, o Volgograd yn Rwsia oedd Butterfly a chafwyd perfformiad teimladwy a chymeradwy ganddi. Roedd Stephanie Novacek o'r Unol Daleithiau yn ardderchog fel Susuki y forwyn. Mae Gwyn yn mynd o nerth i nerth a chawsom berfformiad sicr a chaboledig a bu'n llwyddiannus wrth argyhoeddi'r gynulleidfa ei fod wedi ymgolli ym mhrydferthwch y ferch ifanc hudolus ond, ar yr un pryd, mai perthynas dros dro oedd y cyfan mewn gwirionedd. Roedd y gymeradwyaeth frwd ar y diwedd yn cydnabod llwyddiant ei ddehongliad. Cofiaf, yn y flwyddyn 1991, fod yn bresennol yn Covent Garden ar gyfer ymddangosiad cyntaf Bryn Terfel yno yn Marriage of Figaro gyda Thomas Allen yn portreadu'r Cownt, cyflogwr Figaro. Hyfryd oedd gweld y cawr operatig hwn, Syr Thomas Allen bellach, yn cefnogi Cymro disglair arall ar ei ymddangosiad cyntaf yn Covent Garden yn rhan Sharpless y llys-gennad gyda'i berfformiad rhwydd a diffuant o feistriolgar. Roedd hon yn noson i'w chofio i Gwyn ac yn sicr yn noson i'w thrysori gan bawb a gafodd y fraint o fod yno. Mae ei ddyddiadur yn llenwi'n gyflym. Gorffennaf ac Awst bydd yn canu unwaith eta yn Trondheim, Norwy mewn dathliad arbennig o ganmlwyddiant annibyniaeth y wlad. Hefyd bydd yn canu mewn cyngerdd i goff谩u'r tenor mawr Scandinafaidd, Jussi Bjorling. Bydd yn canu yn Madam Butterfly eto gyda Chwmni Opera Lloegr yn yColosseum, Llundain ac yn Macbeth yn Covent Garden. Yn 2007 bydd yn dychwelyd i Chicago yn La Boheme. Cawn y fraint o'i glywed yn lleol mewn Cyngerdd arbennig yn Llangefni ac ym Mhafiliwn Sioe M么n. Eifion W Griffiths
|