Mae'n debyg mai'r ffordd orau i grynhoi ein hymdriniaeth 芒'r fro hon yw teithio ar hyd ffyrdd yr ardal gan nodi ambell lecyn a chyfeirio at ambell gymeriad sydd yn enwog yn ei filltir sgw芒r neu ar raddfa ehangach. Mae'n debyg ein bod yn dod i fro'r Arwydd ym Mhentraeth, pentref a fu'n enwog am ei gantorion ac a roddodd fro mebyd i Ifor Thomas, y tenor a fu'n dirprwyo dros rai o denoriaid mawr y byd. Un a ddaeth yn gadeirydd yr Academi yn Efrog Newydd, ac yn ffotograffydd digon cymwys i dynnu llun arlywyddion yr Unol Daleithiau.
Yma, yn y Merddyn Gwyn, y trigai Wil Ifan o F么n, y saer maen athrylithgar a'r awdur a anrhydeddwyd gan y Sorbonne ym Mharis ond a anwybyddwyd gan ei wlad ei hun. Ym Mhentraeth hefyd y mae'r Plas Gwyn, cartref y llyfrgell a ddaeth yn enwog dan ofal Paul Panton. A bu Charles Dickens yn aros yn y Panton Arms ar ei ffordd i weld llongddrylliad y Royal Charter, golygfa drist a roes ddeunydd ysgrifennu iddo yn ei Uncommercial Traveller.
Wedi gadael Pentraeth fe ddown i Fro Goronwy, ardal a enwyd gan John Williams, ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy a sefydlwyd yn 1901 ac sydd yn parhau i ffynnu. Mae'n debyg i Ifor Thomas ganu yn y Met yn Efrog Newydd ac fe wnaed hynny hefyd gan ei gymydog yn y byd cerdd, sef Gwyn Hughes Jones a anwyd ac a fagwyd yn Llanbedrgoch, dafliad carreg glaslanc o Faes Eisteddfod Genedlaethol M么n 1999.
Fe ddaliwn ni ymlaen ar y ffordd i Amlwch. Toc fe ddeuwn at y ffordd sy'n arwain i'r Traeth Coch, lle bu porthladd prysur a chwareli marmor.
Ymlaen, heibio'r odyn galch a graciodd ar y taniad cyntaf ond a adenillodd ei gogoniant mewn cylchgronau pensaern茂ol fel cartref pur fodern yn ei gyfnod. Yr ydym yn awr ger y Groes Wion, y bonyn o groes farchnad sy'n nodi'r fan lle deuai'r Tuduriaid o Benmynydd i brynu a gwerthu ceffylau.
Benllech yw'r pentref nesaf. Mae'r gromlech, y ben-llech neu'r prif-faen i'w gweld y tu 么l i siop y fferyllydd. Heibio i Benllech awn ymlaen i gyfeiriad Moelfre. Ar y chwith, cyn cyrraedd croeslon Traeth Bychan mae'r Ysgubor Fawr a fu'n gartref i Emyr Humphreys, a thros y ffordd fawr mae gwesty'r Beauchelles, Glynllifon gynt, adeilad helaeth fu gynt yn gartref i'r nofelydd John Pierce (Dan Lenni'r Nos, Blacmel a Tri Mewn Trybini).
O droi i'r chwith fe gyrhaeddwn Marian-glas, a Phencraig lle ganwyd John Idris Owen (enillydd medal Ryddiaith Llanbedr Pont Steffan 1984), a symudodd yn y man i Dy'n-y-gongl ac i Ddinbych.
Dyma bentref mebyd yr actor Oscaredig Huw Griffith, ei chwaer ddisglair, Elen Roger Jones, a'u cefnder o awdur a darlithydd crwydrol, John Williams Hughes. Ond fe awn ni yn 么l i'r groeslon a dal ymlaen i gyfeiriad Amlwch a throi i'r dde ar gylchdro Paradwys i ymweld 芒 Moelfre a wnaed yn enwog gan arwriaeth Richard Evans a chriw y bywydfad, a llongddrylliad 'y Royal Charter'.
Yn 么l i fyny'r allt at Eglwys Llanallgo lle claddwyd rhai trueiniaid o'r Royal Charter a man bedd John Williams (Glanmor) a ysgrifennodd y gerdd, Twll Bach y Clo. Yma hefyd yn 么l gair ei deulu, y mae bedd Richard Williams a gododd y baneri i drosglwyddo neges Nelson fod Lloegr yn disgwyl i bawb gyflawni ei ddyletswydd.
Ymhellach ymlaen mae pentref Brynrefail lle mae C么r Godre'r Arwydd yn ymarfer ac ar y dde wedyn mae Pentreirianell, cartref Morrisiaid M么n, sydd ag iddynt gofeb ar y bryn gerllaw eu cartref. Croniclwyd hanes y pedwar brawd yn ofalus gan y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam.
O droi i'r dde yn y groeslon nesaf, ger capel Sardis, fe ddown at Eglwys Llanwenllwyfo, lle mae'r ffenestri enwog y sonnir amdanynt mor ysgolheigaidd, gan yr arlunydd J.O. Hughes, Brynglas. Yma eto mae beddau y rhai a gollwyd oddi ar y Royal Charter.
Fe awn rhagom i bentref Penysarn, ac yr ydym yn awr yng ngolwg Mynydd Parys a gallwn fynd yn nes ato trwy fynd i mewn i dref Amlwch. Gellir cael hanes y dref hon a'r gwaith copr yng nghyfrol Eryl Wyn Rowlands, Mastiau a Siafftiau.Yma, ym Mhorth Amlwch, y mae'r amgueddfa forwrol newydd.
Ac yna Lannerch-y-medd, tref lle bu'r delyn yn offeryn mor bwysig ar un adeg, a'r cryddion mor niferus. Ysgrifennodd E. Wyn Hughes, brodor o'r dref erbyn hyn, y gyfrol Trem yn 脭l, a cheir hanes y dref yn y gyfrol ddiweddar Tamaid i'w Brofi o Lwch M芒n Llan'achmedd gan T. A. Hughes.
Ac yn awr fe awn i'r dwyrain ac i gyfeiriad y m么r, heibio Ffynhonnau Clorach lle cyfarfyddai Seiriol Wyn a Chybi Felyn,- achlysur a bortreadwyd mor lliwgar yng ngherdd Syr John Morris Jones.
Golau'r goelcerth
Rydym eto wrth droed Mynydd Bodafon, neu i roi ei enw gwreiddiol iddo, Mynydd yr Arwydd, neu'r Arwydd Eithin. Yma y cynnid coelcerth i rybuddio'r wlad fod llongau Napoleon yn bygwth ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 么l Humphrey Roberts yn 1800, gellid gweld golau'r goelcerth o Gaerludd, sef yr arwydd a roddodd enw i'r mynydd a'r papur bro:
Ym Mona ar ben mynydd
Y taniwyd t诺r eithin yn arwydd
Aiff gair ar led i Gaer Ludd
Os tania pawb eu tanwydd.
Fe ddywedir i ddeg ar hugain o drigolion Mynydd Bodafon fudo i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Bu'r olaf ohonynt farw yn Unadilla Forks yn wythdegau'r ganrif honno.
Ar y ffordd i Rosfawr gellid troi at Eglwys Llaneugrad, lle mae bedd John Phillips, sefydlydd y Coleg Normal. Ac fe gyrhaeddwn y Rhosfawr ganrif a hanner wedi i George Borrow gael sgwrs yn y Sbaeneg ger y California Arms, ac ymweld 芒'r felin ac 芒'r Dafarn Goch, cartref y bardd clasurol Goronwy Owen.
A dyna ni yn 么l ym Mhentraeth ar 么l llwyddo i ruthro o gwmpas bro gyfoethog Amlwch a'r cylch gan esgeuluso llawer llecyn pwysig ac aml i gymeriad diddorol.