"Mae archif teulu'r Pennant yma ym Mhrifysgol Bangor yn ymestyn o'r 1670au i 1940, pan werthwyd y tiroedd yn Jamaica.
Daeth teulu'r Pennant o Sir Fflint yn wreiddiol. Rhoddwyd dau grant gan y Goron o 360 a 250 acer yn Jamaica i Gifford Pennant yn 1670 ac erbyn ei farwolaeth yn 1677 roedd y teulu'n berchen ar 7,000 acer o dir.
John Pennant oedd yr un olaf o'r teulu i fyw yn Jamaica - asiantau oedd yn rhedeg y planhigfeydd i'r teulu ar 么l hynny.
Nid oedd y Pennants yn wahanol iawn i deuluoedd eraill yn y b么n - y ddadl oedd, bod angen caethweision i redeg y planhigfeydd. Yn 么l Richard Pennant:
'It would be absurd to the men whose profit depends on the health of the African natives to purposely torment them during their voyage'.
Roeddent yn gweld y caethweision fel anifeiliaid - os c芒nt eu cam-drin, fydden nhw ddim yn gallu gweithio'n iawn.
Defnyddiodd Richard Pennant gyfoeth y teulu o'r planhigfeydd siwgr yn Jamaica i brynu st芒d y Penrhyn ger Bangor a defnyddiwyd rhagor o'r cyfoeth i ddatblygu'r chwareli llechi yma yng Ngwynedd.
Erbyn 1822, roedd gan George Dawkins-Pennant dros fil o gaethweision mewn pedair stad. Roedd gan Gymry eraill gaethweision yno hefyd, fel Henry Rhodes-Morgan, a oedd yn rhedeg planhigfeydd 'Wales', 'Plumlumon' a 'Snowdon'.
Rhaid cofio ein bod yn nodi 200 mlynedd ers diddymu cludo caethweision o Affrica yn 2007; nid diwedd caethwasiaeth ond diwedd ar y fasnach i lefydd fel Jamaica. Roedd y rhai oedd ar yr ynys yn barod yn dal i fod yn gaethweision tan 1838.
Mae'n wir i ddweud fod agwedd y perchnogion tuag at y caethweision wedi newid ar 么l 1807 a diddymu'r fasnach, oherwydd nid oedd ychwaneg o gaethweision yn cael eu mewnforio. 'Roedd rhaid edrych ar 么l y rhai oedd ar 么l i sicrhau'r dyfodol.
Cafwyd gorchymyn nad oedd merched beichiog i weithio yn y caeau a bod plant yn cael un pryd da o fwyd pob dydd. Ond rhesymau economaidd oedd tu 么l i'r newidiadau yma, nid rhai dynol. Nid oedd llawer i gaethweision Jamaica ddathlu yn 1807. Fel y dywedodd un asiant mewn llythyr i George Dawkins-Pennant;
'Getting negroes to understand that though no more slaves will come, that they themselves will still be slaves was difficult and caused great resentment'.
Daeth caethwasiaeth i ben mewn dwy ffordd. Yn dilyn deddf 1833 gwnaed y caethweision yn brentisiaid di-d芒l am gyfnod o chwe mlynedd. Sicrhawyd felly fod digon o lafur i redeg y planhigfeydd wrth i gaethwasiaeth ddod i ben.
Yn ogystal talodd y Goron iawndal 拢20 miliwn i'r perchnogion.
Am ei 764 caethwas cafodd George Hay Dawkins-Pennant dros 拢14,000 mewn iawndal.
Diddymwyd caethwasiaeth yn y trefedigaethau Prydeinig yn swyddogol am
hanner nos Gorffennaf 31 ,1838. Dyma yw'r dyddiad y byddai'r caethweision yn Jamaica wedi ei wir ddathlu."
Arddangosfa Sugar and Slavery, Castell PenrhynProsiect Bethesda - Jamaica, Ysgol Llanllechid