"Sefydlwyd y 大象传媒 ym Mangor yn 1936, o dan arweiniad Sam Jones, a oedd eisioes wedi cynhyrchu'r bwletin newyddion Cymraeg o Lundain. Ar y cyfan, rhaglenni Saesneg i'r Home Service recordwyd ym Mangor yn ystod yr ail rhyfel byd, ond erbyn yr 1940au, ehangwyd y darlledu Cymraeg."Roeddwn i ar y pryd yn y coleg, ac yn aelod o griw canu Triawd y Coleg. Cawsom y cyfle i berfformio'n fisol ar y rhaglen newydd Noson Lawen, gan agor a chau pob sioe. "Cyfuniad o amaturiaid o'r coleg a'r pentrefi cyfagos oedd criw y Noson Lawen yn y blynyddoedd cynnar. Roedd gennym ni Bob Roberts Tai'r Felin, y ffermwr yn canu baledi, Richard 'Co Bach' Huws, y siopwr yn adrodd yn iaith y Cofis a Charles Williams, y gwas ffarm, yn arwain ac yn perfformio gyda'i bartner, T C Simpson, y postmon o Langefni. "Byddai criw o fechgyn Bethesda - Cytgan - yn dod i ganu, dan arweiniad Ffrancon Tomos, a fyddai hefyd yn chwarae un o'r ddau biano, gyda Maimie Noel Jones. Yn hwyrach, daeth c么r meibion Penygroes i ganu, dan arweiniad C H Leonard. "Yn y dyddiau cynnar, byddai'r rhaglen yn cael ei darlledu'n fyw. Yr oedd y cynhyrchydd Sam Jones braidd yn drwm ei glyw, a byddai popeth yn cychwyn gyda'i floedd "Stand by". Ond dan ei arweiniad, a chyda cymorth Myfanwy Howell, roedd y profiad o berfformio ar y Noson Lawen yn un gwych."
|