"Roedd darlledu o Fangor yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn gyfnod eithaf cyffrous. Oherwydd y bomio trwm ar Lundain a Bryste fe drosglwyddwyd Adran Adloniant Ysgafn Saesneg, a oedd yn cynnwys cyfresi fel ITMA a Ray's a Laugh i'r County Theatre ym Mangor."I'r theatr hon, hefyd, y daeth y 大象传媒 Theatre Organ, a'r organydd Sandy MacPhearson, a oedd yn enw adnabyddus iawn ar y pryd. Roedd o'n byw yn Llandudno, ac fe fyddai'n teithio i Fangor bob dydd efo bws, a dyna lle cefais i gyfle i'w adnabod. "Ar wah芒n i enwau mawr adloniant y Saeson, roedd corau ac artistiaid gogledd Cymru hefyd yn cynhyrchu llawer iawn o raglenni Cymraeg a Saesneg ar gyfer y lluoedd arfog yn bennaf. "'Roeddwn i'n aelod (ifanc iawn!) o G么r Meibion y Cymric Gleemen o Benmaenmawr, ac fe gawsom gyfle i gymryd rhan mewn dwsinau o raglenni fel Strike a Home Note a'r Noson Lawen. Roedd yn rhaid i ni ddysgu tri neu bedwar o ddarnau newydd bob wythnos a'u recordio yn y County Theatre bob Sul. Roedd 'na dipyn o weld bai gan rai aelodau'r capeli oherwydd bod lleisiau gorau'r gynulleidfa yn absennol o'r gwasanaethau! "Dwi'n cofio mai'r Cymric Gleemen a chriw o fechgyn o Fethesda gyflwynodd, am y tro cyntaf, y g芒n We'll keep a Welcome a Nos Da gan Mai Jones. Hi, wrth gwrs, oedd cynhyrchydd y rhaglenni hyn. Storm o ddynes oedd Mai Jones, ac fe fyddai'n ein rheoli ni 芒 chwip ei thafod ac yn mynnu cael perffeithrwydd ym mhob datganiad."
|