"Ro'n i wedi meddwl mynd i'r m么r erioed, ers pan oeddwn i'n blentyn, a daeth cefnder imi i lawr o Lerpwl a deud lle mor dda oedd ar y Blue Funnel a chymaint o hogia Cymraeg oedd yn gweithio efo'r cwmni. "Felly, mi es i fyny i Odyssey Works yn Birkinhead, a phan es i fewn drwy'r drws, y boi cynta' i nghyfarch i oedd Cymro o'r enw Mr Griffiths. Roedd pawb yn anelu ato fo i dr茂o cael llong dda.
"Roedd yna dipyn go lew o Gymry efo ni ac roedd y sgwrs weithia bron iawn i gyd yn Gymraeg ar y dec a'r Sgowsars yn cael hwyl efo ni. Roeddan nhw'n tynnu arnon ni'n siarad Cymraeg ac yn tr茂o joinio i mewn bob hyn a hyn.
"Roedd y gwaith reit galad, yn enwedig efo cwmni'r Blue Funnel. Dim craenia oedd yr adeg honno ond be oeddan ni'n ei alw'n derricks ac roedd na 27 o'r rheiny ar y cwch i gyd a saith o hatches. Roeddan ni'n gorfod gwneud yn si诺r fod bob dim yn iawn, bob dim yn saff, paentio a chipio a phetha felly.
"Yn y dechra', roeddan ni'n codi tua 5.30 yn y bora' ac yn gorfod sgrwbio'r dec o'r top i'r gwaelod. Roedd hynny'n mynd ymlaen tan tua 7.30am, wedyn roeddan ni'n cael brecwast am 8.00am. Hefyd, roedd yr hogia'n cadw watch - roedd gynnoch chi'r shifft 12 - 4, 4 - 8 a 8 - 12. Roedd yn waith reit galad a deud y gwir.
"Mi wnes i dipyn bach o ganu tra ro'n i ar y m么r. Y lle dwi'n ei gofio orau ydy yn Awstralia. Dwi'n cofio mynd i gapal Cymraeg yn Awstralia a chael croeso mawr yn fanno a mynd 芒'n git芒r efo fi a chanu. Dwi wedi bod n么l mewn cysylltiad efo'r bobl rheiny ers hynny.
"Mi roeddan ni'n mynd i fyny i ganu yn y bariau yn Singapore a llefydd felly. Toby's Paradise, dwi'n meddwl oedd enw un bar - mi roeddan ni'n arfar cael sing-song yn fanno.
"Roedd 'na fariau roeddan ni'n mynd iddyn nhw yn Hong Kong hefyd. Yn ochr Kowloon oeddan ni, ac roeddan ni'n mynd i le o'r enw'r Lucky Bar - ac mi oeddan ni'n lwcus ofnadwy! Roedd na ferchaid yn dod i eistedd ar eich glin ac yn gofyn inni brynu diod iddyn nhw a ballu. Weithiau, mi fyddan ni'n prynu drinc iddyn nhw.
"Enw bar arall poblogaidd oedd Waltzing Matilda ac ym mhob porthladd roedd na Seaman's Mission lle roeddan ni'n cael mynd weithiau i nofio.
"Yn Japan oedd rhai o'r llefydd gorau yn y byd, faswn i'n ei ddeud - llefydd fatha Kobe a Yokohama. Dwi'n cofio fy nhrip cyntaf i Yokohama. Roedd y llong yn docio ar y pier ac roedd 'na ferchaid Geisha yn cerddad ar hyd y pier. Roedd na foi o Edern efo fi a dyma fo'n gweiddi drosodd ar y ferch ifanc yma, 'Do you want to take him for a walk?' 'Yes,' medda hi. Do'n i ddim wedi disgwyl dim byd! Un-ar-bymtheg oed o'n i ac ar fy nhrip cynta. Mi ges i fynd efo hi trwy'r wythnos - mi aeth hi 芒 fi rownd Yokohama i gyd yn dangos y sites a llawer o betha eraill hefyd!
"Dwi'n cofio'r chief officer yn dod i lawr unwaith. Roedd o'n gwybod fod na lot ohonan ni'n Gymry a dyma fo'n deud wrtha fi: 'Taff. Get your guitar out, let's have an Eisteddfod'. Wedyn, mi roeddan ni i gyd yn eistedd ar y dec gyda'r nos yn cael sing-song ac yn mynd rownd pawb yn gofyn iddyn nhw ganu ac os nad oeddan nhw'n canu oeddan nhw'n gorfod gwneud rhywbeth arall - ond fedra i ddim dweud be!"
"Dwi'n ein cofio ni mewn ryw borthladd, dwi ddim yn cofio yn iawn yn lle, ac roedd Dic o Bontnewydd efo ni. Wrth lanio, roeddan ni wedi hitio ochr y cwch yn y pontoon ac roeddan ni'n wedi cael bob dim yn barod ar y pontoon i drwsio a dyma Dic yn deud wrtha fi - 'Dos rownd a gwna' yn si诺r bod 'na neb yn mynd i'r lavatory'. 'Iawn, Dic' medda fi, 'mi 芒 i rownd.'
"Roedd Dic wrthi'n paentio ochr y cwch a thra ro'n i wedi cerdded rownd roedd na ddyn wedi mynd i'r lavatory, drosta fo i gyd! A dyma fi'n sb茂o dros yr ochr yn tr茂o cadw wyneb syth a dyna lle roedd Dic yn cyfogi dros ochr y pontoon ac yn fy rhegi fi! Mi ddeifiodd yr hen Dic i mewn i'r d诺r achos roedd o wedi ei orchuddio mewn baw ac yn dal i regi a damio! Mi ddaeth ar hyd ochr y cei yn cyfogi ac aeth yn syth i'r shower a welodd neb mohono fo am ddau ddiwrnod - mi aeth ar y cwrw am ddau ddiwrnod!
"Mi dreuliais i naw mlynedd ar y m么r. Mi rois i'r gorau iddi, fatha'r rhan fwyaf ohonon ni, ar 么l cyfarfod merch a gwirioni. Ond mi faswn i'n deud mai amsar gorau fy mywyd oedd ar y Blue Funnel Line a dwi ddim yn meddwl y cawn ni fyth mo'r amsar yna n么l. Y 60au oedd yr adeg gorau i longau. Mi es i weithio ar yr overhead lines wedyn.
"Dwi'n colli'r m么r - dwi bob amsar yn meddwl amdano fo ac rydan ni'n cyfarfod bob blwyddyn yng Nghaergybi ac mae'r hogia'n dod at 'i gilydd ac yn canu amball shanti a chael hwyl."
Cyhoeddodd Dylan ei hunangofiant, M么r o Ganu, ym mis Medi 2006. Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch 拢6.50.Atgofion Meirion Pugh Jones