大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Meirion Pugh Jones O Harlech i Hong Kong
Ar 么l dilyn ei drwyn i'r m么r yn 诺r ifanc, cafodd Meirion Pugh Jones o Ddyffryn Ardudwy rai o brofiadau gorau ei fywyd efo'r 'Welsh Navy' a'i chael yn anodd setlo i fywyd ar y tir ar 么l dod n么l.

"Fu gen i 'rioed uchelgais i fynd i'r m么r. Mi adawais i Lanbedr ger Harlech i wneud prentisiaeth efo Standard Motors yn Coventry ac erbyn iddo ddod i ben pan roeddwn yn 21 oed roedd National Service ar y ffordd. Roedd yn golygu bod y rhan fwyaf o'r bobl ro'n i'n cymysgu efo nhw yn mynd i'r armi a doedd gen i ddim llawer o awydd mynd i fanno.

"Felly mi wnes i gysylltu efo bachgen oedd wedi mynd i'r Merchant Navy ar 么l gwneud prentisiaeth fel fi a thrwy hap a damwain es i lawr i Lundain i edrych os oeddwn yn addas i fynd fel engineer. Roedd y rhan fwyaf o'r hogia wedi bod yn brentisiaid yn Camel Laird - dyna'r bobl roedden nhw eisiau.

"Felly mi sgwennais i dros 40 o lythyrau i gwmn茂au a thrwy lwc ges i gyfweliad efo un ym Mryste - a dyna sut es i i'r m么r.

"Yn y dechrau, roeddwn yn hwylio o Havenmouth ar longau oedd yn mynd ar draws yr Atlantic i Montreal ac America. Yna ar ddiwedd y 50au, daeth National Service i ben ac roedd llawer o'r hogiau oedd 芒 chymwysterau gwell na fi yn gadael y Navy ac felly dyna gyfle da i mi fynd o gwmni oedd ddim yn un mawr i un anferth, sef y Blue Funnel yn Lerpwl.

"Ar y llong roedd yna'r chief engineer a'r first, second a third engineers, sef y seniors. Pan ddechreuais i fel junior roedd yn rhaid i un ohonom fod ar bob un watch.

"Y rhan fwyaf o'r amser roeddem yn trafaelio i'r Dwyrain Pell a'r run ddiwethaf wnes i oedd ar un o'r P-boats, sef y Pelius, yn rhedeg o Birkenhead cyn bellad 芒 Yokohama yn Japan. Mi fydden ni'n galw yn Rotterdam ac ymlaen trwy'r Suez i Singapore, Manila, Hong Kong a wedyn rownd Japan ac yn 么l i Singapore, Ceylon ac yn 么l trwy'r Suez i Garston, Lerpwl.

"Byddai un o'r P-boats yn gadael ar y pumed o bob mis. Express service yn cario 60 o deithwyr. Mi fydden ni fel petty officers yn bwyta efo nhw yn yr un sal诺n, yn gwisgo dillad gwyn yn yr haf a phan oedd hi'n oerach, iwnifform glas.

"Cefais amser hapus iawn. Roedd Blue Funnel yn arbennig iawn yn hynny o beth - 'doedden nhw byth yn yswirio yr un llong - roeddent yn gallu adeiladu llong newydd efo'r pres roeddent yn ei safio. Felly mi fyddai Blue Funnel yn dilyn cwrs gwahanol i bawb arall wrth ddod i mewn i Lerpwl. Byddai pawb ar stand by o Gaergybi ymlaen wrth ddod mewn i Lerpwl gyda help peilot da.

"Roedd ganddyn nhw eu gweithdai eu hunain yn Lerpwl ac wrth gwrs, swyddfeydd yn yr India Buildings - mi es i yno yn ddiweddar.

"Roedd y mordeithiau i'r Dwyrain Pell yn braf. Mi fyddem yn treulio tri neu bedwar diwrnod neu fwy mewn porthladd. Heddiw, efo'r container system, dydy'r hogia 'mond yna am chwarter diwrnod. Roedden ni'n cael amser i ddod i 'nabod y llefydd yn dda.

"Arhosais i efo'r Blue Funnel tan oeddwn yn 26, ac oherwydd fy mod wedi hwylio ar longau st锚m, roedd yn brofiad da iawn ac mi ges i swydd ar 么l mis yn gweithio ar y boilers a'r tyrbeini yn Atomfa Trawsfynydd. Roeddwn yno am 33 mlynedd.

"Roedd hi'n anodd iawn pan ddes adref o'r m么r yn foi sengl. Mi briodais i wedyn yn 30 oed, ond roedd yn anodd setlo i lawr i fywyd wyth tan bump. Roedd ganddon ni bopeth ar y m么r - digon o wyliau - am bob wythnos roeddwn ar y m么r, mi fyddem yn cael pedwar diwrnod i ffwrdd - a chyflog da. Ond yn anffodus, mi wariais i'r rhan fwyaf ohono!"

  • Atgofion Dylan Parry

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy