大象传媒

Datblygiad Bae Colwyn: Addysg, Addoldai ac Adloniant

top
Eglwys Sant Paul

Mae Eunice Roberts yn parhau gyda hanes a datblygiad y dref.

Agorwyd Coleg Penrhos, i enethod yn 1880 ac fe symudodd i adeilad y cyn Hydropathic Establishment yr oeddem yn ei adnabod fel Coleg Penrhos yn 1895. Wedi hynny fe ychwanegodd y coleg adeiladau newydd neu fe brynwyd tir ychwanegol pob blwyddyn hyd ymhell ar 么l y Rhyfel Fawr - cyfanswm o 35 ychwanegiad mewn 35 mlynedd.

Agorwyd Ysgol Rydal, i fechgyn, yn 1885 ac fe dyfodd fesul dipyn. Unwyd y ddwy ysgol yn 1995. Fel y byddai disgwyl, fe adeiladwyd sawl eglwys a chapel yn y cyfnod ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.

Yn eu plith oedd y canlynol: cysegrwyd rhan fawr o Eglwys Sant Paul yr ydym yn ei adnabod heddiw yn 1888 gyda'r t诺r yn cael ei ychwanegu yn 1911. Cysegrwyd Eglwys Saesneg Sant Ioan yn 1903, agorwyd Capel Hermon yn 1908, Capel Horeb gan y Wesleiaid yn 1900, Eglwys Fethodistaidd Nant-y-Glyn yn 1905 a Capel Engedi gan y Methodistiaid Calfinaidd yn 1879.

Agorwyd Capel Tabernacl gan y Bedyddwyr Cymraeg 1888 ac un o'i gweinidogion oedd y Parchedig William Hughes, cyfaill i Syr Henry Morton Stanley. Agorodd Institiwt y Congo yn y dref yn 1890 i roi cyfle i fyfyrwyr o'r Affrig ddod i dderbyn addysg Gristnogol a dysgu crefft. Byddent wedyn yn dychwelyd adref fel cenhadon ond hefyd gyda'r modd i wneud bywoliaeth gyda'u sgiliau newydd.

Mae sawl un o'r myfyrwyr wedi eu claddu ym mynwent Hen Golwyn ar Ffordd Llanelian. Yn dilyn cyhuddiadau gan y cylchgrawn John Bull ac achos llys i'w ddilyn caewyd yr institiwt yn 1911. Bu farw'r Parchedig William Hughes yn y tloty yng Nghonwy yn 1924 ac fe'i claddwyd ef hefyd yn y fynwent yn Hen Golwyn.

Erbyn 1901 roedd poblogaeth y dref yn 8,689 ac yn parhau i dyfu. Agorwyd y llyfrgell gyhoeddus yn Ebrill 1905 yn dilyn ap锚l am arian gan y cyhoedd a gododd 拢1,250 a derbyn rhodd o 拢3,785 gan y miliwnydd Americanaidd Andrew Carnegie.

Yn 1907 cwblhawyd y darn o'r dramffordd o Landrillo鈥憏n鈥慠hos i Landudno ac erbyn 1910 i ben uchaf Ffordd yr Orsaf ym Mae Colwyn, ehangwyd y gwasanaeth cyn belled 芒 Gwesty'r Frenhines ym mhen pellaf Hen Golwyn yn 1915. Cafwyd taith olaf y gwasanaeth ym mis Mawrth 1956 cyn cau y dramffordd yn ei chyfanrwydd.

Ym mis Medi 1910 daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i ymweld 芒 Bae Colwyn am y tro cyntaf. Ymwelwyd 芒'r digwyddiad gan y Canghellor David Lloyd George a gafodd dipyn o sylw gan swffragetiaid. Yn 1947 daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i ymweld 芒 Bae Colwyn unwaith eto a gwneud elw o 拢732 - a ddefnyddiwyd i roi rhodd o iatiau addurniadol i Barc Eirias ac 'ystafell Cyfeiriol Cymraeg i'r llyfrgell.

Bu gan Fae Colwyn sawl sinema - yn eu plith y Wedgewood (yr Arcadia gynt) ar Rhodfa'r Tywysog, yr Astra (yr Odeon gynt) ar Ffordd Conwy, y Cosy ar Ffordd Conwy a'r Princess hefyd ar Rhodfa'r Tywysog, sydd erbyn hyn yn dafarn Wetherspoons.

Adeiladwyd Theatr Colwyn fel neuadd gyhoeddus i'r dref a bu'r adeilad yma hefyd yn sinema am gyfnod a nawr mae'n dangos ffilmiau unwaith eto ynghyd ag adloniant byw.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.