In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Castell Harlech
16 Mawrth 2009
Roedd craig anferth Harlech yn fan naturiol i Edward I ddewis ar gyfer castell i gadw trefn ar Ardudwy a gogledd Bae Ceredigion. Gan y byddai'r m么r ers talwm yn cyrraedd at y graig, buasai'n hawdd dod 芒 chyflenwau petai'r castell yn dioddef gwarchae - a digwyddodd hynny'n aml.
Hyd y gwyddys ni fu unrhyw amddiffynfa ar y graig cyn y castell presennol, er bod awdur hanes Branwen wedi lleoli llys Bendigeidfran, brenin Ynys y Cedyrn, yno.
Mae'r castell yn un o gampweithiau mwyaf prif bensaer Edward, sef James o St George, a gafodd ddigon o le ar y graig i godi castell consentrig, gyda muriau mewnol uchel yn edrych allan dros furiau 卯s; calon y cyfan yw'r porthdwr anferth. Amddiffynnir y fynedfa gan glawdd gyda dwy bont godi, tri drws a thri phorthcwlis.
Llwyddodd yr amddiffyniadau hyn, a chyflenwadau o Iwerddon, i gadw gwrthryfelwyr Madog ap Llywelyn allan yn 1294, a methiant fu ymgais gyntaf Owain Glynd诺r yn 1401, ond llwyddodd Owain ar ei ail gynnig yn 1404, a chynnal senedd naill ai yn y castell neu yn y dref fechan gerllaw.
Llwyddodd i gadw'r castell tan 1409, pan fu'n rhaid ei ildio i Harri o Drefynwy, a oedd wrth gwrs yn Dywysog Cymru yn 么l y drefn Seisnig. Dihangodd Owain, ond bu'n rhaid gadael ei wraig Marged Hanmer yno a dwy o'i ferched, a dyna wir ddiwedd ei ymgais arwrol i sefydlu gwladwriaeth annibynnol Gymreig. Cludwyd Marged, gyda dwy o ferched a rhai o wyrion Owain i Lundain, a'u cadw'n garcharorion.
Ond nid dyna ddiwedd hanes y castell. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhos, cedwyd y castell gan y Lancastriaid am saith mlynedd yn erbyn gwarchae cefnogwyr Iorc, nes ildio yn 1468. Yn ystod y Rhyfeloedd Cartref, Harlech oedd y castell olaf ym meddiant y Breniniaethwyr, cyn iddynt ildio yn 1647. Rhoes y Senedd orchymyn i ddinistrio'r muriau, ond ni ddigwyddodd fawr o niwed.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.