Y Copr Ladis
topHanes y Copr Ladis ar Fynydd Parys yng ngeiriau Mair Williams (Mair y Wern) o Laneilian, M么n.
"Nain ddywedodd hanes y Copr Ladis wrtha' i gan fod ei mam a'i nain hi wedi gweithio yn y cytiau copr. Mi benderfynais ddysgu mwy am eu hanes gan astudio cyfrifiadau y 1800au ond does na ddim llawer o s么n amdanyn nhw yno. Doedd merched ddim mor bwysig bryd hynny a'r drefn oedd eu cyfri naill ai fel gwraig neu ferch i'r penteulu.
"Roedd y Copr Ladis yn gweithio mewn cytiau hir iawn oedd wedi eu hadeiladu yn agos at lle roedd y gweithwyr yn cloddio am gopr. Byddai tua 80 o wragedd yn gweithio mewn un sied, pawb yn eistedd ar stolion bychain o flaen y bwrdd yn curo a hynny am ddeuddeg awr ar y tro. Wrth ddefnyddio carreg guro sef morthwyl bychan o haearn oedd yn pwyso tua phedwar pwys - roedden nhw'n curo darnau o'r graig yn llai ar gyfer y ffwrneisi.
Gwisg y Copr Ladi
"Byddai'r merched yn gwisgo ffedogau lledr trwm a sgarffiau cotwm patrymog smotiog am eu pennau a het jim cro meddal ar ben y cyfan. Roedd y sgarff yn gwarchod y pen rhag llwch a s诺n. Roedden nhw hefyd yn gwisgo menyg lledr tew a modrwyau metal ar bob bys i warchod eu dwylo rhag anaf. Ar eu traed redden nhw'n gwisgo clocsiau gan fod cymaint o asid yn y d诺r a'r glaw oedd yn llifo o'r mwyngloddiau fel y byddai wedi bwyta unrhyw ddefnydd arall.
"Roedd llawer yn gwneud clocsiau bryd hynny yn arbennig yn Llanerchymedd a Phensarn. Dw i'n cofio un ohonyn nhw pan oeddwn i'n hogan ifanc. Roedd dillad yn dal i gael eu dogni felly byddai'n rhaid arbed y 'coupons' a mynd 芒 hen sgidiau eich rhieni i'w gwneud yn glocsiau. Maen nhw'n dal gen i ac ar yr un patrwm 芒'r clocsiau roedd y Ladis yn eu gwisgo.
"Er nad oes gen i dystiolaeth, dwi'n meddwl bod y Ladis yn canu wrth weithio gan daro'r morthwylion ar ddechrau pob bar. Fe fyddai hynny'n eu helpu i ddiodde s诺n uchel y curo oherwydd byddai taro'r morthwylion ar draws ei gilydd yn ddigon i ddrysu unrhyw un.
"Mae Owen Gruffydd wedi sgwennu llyfr gwych am y bobl oedd yn gweithio ar Fynydd Parys ger Amlwch. Mae'n s么n am un hen wraig o'r enw Phoebe Morris yn canu bas. Dydw i ddim yn si诺r os mai allan o diwn oedd hi neu os oedden nhw'n canu mewn mwy nag un llais. Mae Owen Gruffydd hefyd yn s么n am g芒n gan y Ladis Copr oedd 芒 12 pennill am fywyd ar y mynydd. Mae un pennill am fwyd - gan eu bod yn cadw ieir, roedd wyau yn rhad ac fe fydden nhw'n canu am grempogau yn nofio mewn menyn.
Bywyd caled
"Rydw i hefyd wedi ymchwilio i hanes y mwynwyr ar Fynydd Parys. Cyn i reolwyr newydd gymryd drosodd yn y 1860au, roedd y dynion yn gweithio ymhell i'w 80au gan nad oedd ffordd arall o ennill eich bara menyn. Pan benderfynodd y weinyddiaeth newydd geisio cael gwared arnyn nhw, fe ysgrifennwyd llythyrau at Ardalydd M么n, sef y perchennog, yn gofyn am bensiynau. Wrth ddarllen y llythyrau yma, fel un ar ran Huw Hughes, fe allwch amcangyfrif bod y dynion wedi dechrau gweithio yn bump a chwech oed. Mae'n rhaid eu bod wedi eu clymu ar gefnau eu tadau i weithio yn y twneli lleiaf. Neu roedden nhw'n gweithio ar yr wyneb, yn cario copr i'r siediau. Roedd yn fywyd caled i bawb oedd yn gweithio ar Fynydd Parys."
Rhannodd Mair Williams yr atgofion hyn ar gyfer erthygl ar wefan 大象传媒 Lleol i Mi yn wreiddiol.