Amlwch, copr a'r byd
topAmlwch, Ynys M么n, oedd porthladd pwysica'r byd o ran allforio metelau i adeiladu llongau mawr yn y 1800au.
Cyn cyfnod prysur y mwyngloddio ar Fynydd Parys, pentref bach tawel yng ngogledd ddwyrain M么n oedd Amlwch.
Cafodd Lewis Morris, un o frodyr talentog Morrisiaid M么n a swyddog tollau yng Nghaergybi ar y pryd, ei gomisiynu yn 1748 i wneud cofnod o'r cilfachau oedd yn rhoi lloches i longau ar hyd arfordir Cymru. Yn ei adroddiad, disgrifia Borth Amlwch fel ychydig mwy na rhimyn o draeth rhwng dwy graig serth, nad oedd prin le i gwch droi ynddo. 'Doedd y bae, yn ei farn o, ddim yn haeddu bod ar fap o gwbl.
Amlwch yn ganolfan ddiwydiannol bwysig
Ond tyfodd Amlwch yn ganolfan ddiwydiannol bwysig fyd-eang ar 么l darganfod symiau mawr o gopr ar Fynydd Parys.
Chwarelwr lleol o'r enw Rowland Puw wnaeth y darganfyddiad, a chael potel o wisgi a bwthyn di-rent am weddill ei oes fel t芒l. Ond, gwnaeth pobl eraill elw llawer brasach ar fwyngloddio ac allforio'r metel yr oedd cymaint o alw amdano ar ddechrau twf y chwyldro diwydiannol yn Ewrop.
Cynhyrchydd copr mwya'r byd
Dan arweiniad cyfreithiwr a dyn busnes lleol o'r enw Thomas Williams, a g芒i ei adnabod gan y mwynwyr fel Twm Chwarae Teg, daeth pyllau mwyngloddio Amlwch yn gynhyrchydd copr mwya'r byd. Nid yn unig roedd galw mawr am y metel ar gyfer y diwydiannau newydd oedd yn codi ym mlynyddoedd cynnar y Chwyldro Diwydiannol ond roedd y cwmn茂au mwyngloddio hefyd yn cynhyrchu haenau copr ar gyfer llongau 'Men of War' Nelson, yn ogystal 芒 bathu eu harian eu hunain - Ceiniogau Amlwch.
Gan fod cynifer o longau yn defnyddio Amlwch fel porthladd ar y pryd, roedd lle yn brin a'r symud i mewn ac allan yn araf ac felly pasiwyd Deddf Seneddol yn 1793 i ganiat谩u dyfnhau ac ehangu'r porthladd a rheoleiddio'r gwaith. Symudwyd yr ardal fusnes o'r ochr orllewinol i gei eang wedi ei dyllu o'r graig ar yr ochr ddwyreiniol, lle mae rhai o'r adeiladau yn dal i sefyll o hyd.
Pan aeth y pyllau mwynglawdd yn hesb, daeth y porthladd yn ganolfan adeiladu llongau lwyddiannus. Byddai iardiau llongau William Cox-Paynter ac, yn arbennig, Capten William Thomas, dyn lleol oedd wedi rhedeg i ffwrdd i'r m么r pan oedd yn 12 mlwydd oed, yn cynhyrchu llongau oedd yn nodedig am safon uchel eu crefftwaith, eu cyflymdra a'u ceinder. Mae olion yr iardiau yma'n dal i'w gweld heddiw: y llofft hwyliau, simneai'r gweithdai a'r doc sych wedi ei gloddio allan o'r graig. Mae adeiladau eraill, fel y t欧 gwylio gyda'i oleudy bychan, biniau copr ac odyn galch, yn dal i fod yn yr un cyflwr, fwy neu lai, ag oeddent yn y 1880au.
Fodd bynnag, mae nifer o warysau, melin lifio a g芒i ei rhedeg gan dd诺r a thafarn, bellach yn adfeilion.
Ffurfio Mynydd Parys
Mae Mynydd Parys yn un o ddim ond tri safle yng Nghymru lle mae tystiolaeth o fwyngloddio copr yn ystod yr Oes Efydd a Chyfnod y Rhufeiniaid. Ond mae hanes y lle yn llawer hynach ac yn dyddio n么l i'r cyfnod Ordoficaidd. Tua 450 miliwn o flynyddoedd yn 么l, ffurfiwyd seiliau'r mynydd gan fwd ar wely'r m么r a gymysgodd gyda mwynau metel wedi eu creu gan weithgaredd folcanig.
Y gred wyddonol ar hyn o bryd ydy mai yn ystod yr Orogeni Caledonaidd, cyfnod pan ffurfiwyd mynyddoedd tua 400 miliwn o flynyddoedd yn 么l, y cafodd y creigiau eu plygu ac yr ail-doddwyd y mwynau a'u hail-waddodi gan greu mwyn llawer cryfach bob tro. Wrth i'r rhain gael eu torri i lawr ac i'r tywydd effeithio arnyn nhw, maent wedi troi yn lliwiau coch a brown trawiadol.
Mae'r gwastraff asidig wedi denu planhigion a chen anarferol i Fynydd Parys. Mae ystlumod wedi ymgartrefu yn y pyllau ac mae jac-y-do a brain coesgoch i'w gweld yn hedfan uwchlaw hen gloddfeydd brig. Mae'n hawdd gweld pam fod y safle wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ffilmiau ffuglen-wyddonol, gan gynnwys Dr Who.
Mae Mynydd Parys i'r de o Amlwch yng ngogledd ddwyrain M么n. (Cyfeirnod Grid SH437909
Paratowyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar gyfer gwefan 大象传媒 Lleol i Mi Gogledd Orllewin