Gwaith Glo'r Hafod
topY gwaith glo yn yr Hafod oedd prif gyflogwr y Rhos (Rhosllannerchrugog) ger Wrecsam am dri chwarter canrif. Caeodd yn 1968. Roedd Heddwyn Jones a Glyn Evans yn l枚wyr yno.
Heddwyn Jones
"Ddaru mi gychwyn yn y pwll yn 1941. 'O'n i ond yn 14 oed amser hynny ac mi weithiais i yno tan 1968 pan naeth yr Hafod gau.
On i'n gorfod mynd achos nes i adael ysgol yn 14 oed a'r unig le oedd 'na rownd ffor' yma oedd pwll Hafod neu Bersham, ond oedd 'y nhad i'n gweithio yn Hafod, fo nath fy nghael i mewn.
"Nes i weithio yno tan 1968 a phan dwi'n edrych yn 么l y peth gorau oedd y bobl on i'n gweithio efo nhw, comradeship fel maen nhw'n dweud yn Saesneg.
"'On i'n neud ffrindiau a 'dan ni'n dal i fod yn ffrindiau - y bobl dwi'n cwrdd 芒 nhw yn y clwb [Clwb yr Hafod/Hafod Social Club yn Rhos] yw'r bobl o'n i'n gweithio efo nhw lawr yn yr Hafod.
"Ddaru mi fwynhau'r amser ond ar 么l iddyn nhw gau'r Hafod es i weithio yn BICC yn y dre.
"Roedd hi'n amser cau'r pyllau achos gwaith budr a pheryglus oedd o. Roedd y perygl yno drwy'r dydd - a'r llwch, dywedais fod hynny'n hen ddigon ac 'on i'n falch yn y diwedd bod y pwll wedi cau. On i'n gweithio mewn seam isel, o'dd ond yn two foot eight ac oeddet ti ar dy liniau o hyd, si诺r ei fod yn neud damage yn tydi?
"Ddaru fi orffen yn 1968 pan fu'r Hafod gau. Job budr odd o ond dwi'n falch bo fi wedi bod yno achos y bobl ddes i 'nabod. O'n ni i gyd yn ffrindiau ac yn dal i fod. Fi 'di un o'r rhai hynna sy'n dal i fynd. Dwi falch i weld y golau yn y bore pan dwi'n agor y cyrtens!"
Glyn Evans
"Cychwynais i weithio yn yr Hafod ym 1944, adeg y rhyfel, yn 14 oed. Tri mis cyn i mi fod yn 15 o'n i'n gweithio ar lawr, odd 'na gymaint o ddynion wedi mynd i'r rhyfel ac roedd colliers yn marw'n ifanc amser 'na. Os oet ti'n 60 mlwydd oed pryd hynny odd hynny'n hen.
Oedd o'n brofiad ofnadwy, 650 o lathenni o dan ddaear a ddwedes i wrth fy hun "be gythraul dwi'n neud yma?" Mae pobl heddiw yn yr ysgol tan bo nhw'n 18 oed - dyna wahaniaeth.
"Dyna oedd fy nghychwyn i a bues i ene tan i'r pwll gau yn 1968. Weles i ambell i ddamwain - un dyn gafodd ei gladdu a fi ddaru orfod dod ag o allan, oedd o 'di torri pob asgwrn yn ei gorff.
"O'dd pedwar o blant ganddo pan gafodd ei ladd. Dwi'n cofio Lloyd George yn dweud 'Gwyn ein byd ni pan fydd na neb yn gweithio ar lawr' a mae hynny 'di dod yn wir r诺an bod y pyllau wedi cau a dwi'n falch o hynny.
"Bysen i ddim yn gyrru 'mhlant fy hun i weithio ar lawr ond o'dd dim byd arall i wneud pan oeddech chi'n gadael ysgol adeg y rhyfel.
"O'n i'n mynd i'r d么l ac oedd y Rheolwr yn cynnig 'Brickyard or pit?' 'Pit' medde fi. 'Why pit?' gofynnodd. 'My father is a miner and my elder brother is a miner so I'm following them'. 'Well that's alright then. Report to the Colliery Monday morning.'"
Gwaith glo'r Hafod
Adeiladwyd Gwaith Glo'r Hafod ar 么l i Waith Glo Rhiwabon orfod cau oherwydd gorlifo. Agorodd yn 1867 ac, ar ei brysuraf yn 1938, roedd yn cyflogi 1600 o ddynion.
Gwaith Glo'r Hafod oedd y prif gyflogwr yn y Rhos am 75 mlynedd ac roedd bywydau llawer yn dibynnu arno. Pan gaewyd y pwll ar 9 Mawrth 1968 collodd rhan fwyaf o'r 1300 o weithwyr eu gwaith a chafodd eraill eu trosglwyddo i waith glo'r Bers neu Gresford. Cadwyd oddeutu 200 ohonynt i dynnu'r peiriannau tanddaearol cyn selio'r siafftau a dymchwel yr adeiladau ar yr wyneb.
Rhannodd Heddwyn Jones a Glyn Evans yr atgofion uchod yn wreiddiol ar gyfer erthygl ar wefan 大象传媒 Lleol i Mi. (Llun gwaith glo yr Hafod ar frig y dudalen drwy ganiat芒d Ken Aspinall)
Diwydiant
- Cefndir Glo yng Nghymru
- Streic 1984-1985
- Sian Sutton yn cofio Streic y glowyr
- Gwilym Owen a glowyr y de orllewin
- Gwaith glo'r Hafod
- Sain: Ceri Lewis a bywyd y 'Bevin Boy'
- Sain: Dai 'The Shot' Davies y glowr
- Sain: David Lewis a'r diwydiant glo
- Fideo: Streic y Glowyr 1984
- Fideos: Cymru a Phrydain Diwydiannol