Wedi'r goresgyniad - 1282 - 1485
29 Awst 2008
Daeth y concwerwyr Eingl-Normanaidd 芒 dylanwadau cyfandirol gyda nhw. O dan nawdd yr uchelwyr Normanaidd a'r tirfeddianwyr Cymreig fe ffynodd y Beirdd a'r Aristocratiaid.
Yr oedd concro Cymru yn brofiad trawmatig. Pan laddwyd Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 mewn sgarmes 芒'r fyddin Eingl-Normanaidd yng Nghilmeri ger Llanfair ym Muallt, dywedodd un croniclwr bod Cymru gyfan wedi'i llorio.
Tywysogion annibynnol Cymru oedd prif noddwyr y beirdd cynnar, Y Gogynfeirdd, a bu cryn alaru wedi marwolaeth Llywelyn. Wedi bron i fil o flynyddoedd yr oedd Cymru wedi colli ei hannibyniaeth wleidyddol ac yr oedd diwylliant a thraddodiadau'r wlad yn wynebu difodiant.
Ysgrifennodd bardd llys Llywelyn, Gruffudd ab yr Ynad Goch, un o gerddi mwyaf yr iaith Gymraeg, Marwnad Llywelyn ap Gruffudd. Yn ei alar dwys mae'n gofyn: Och hyd atat-ti, Dduw na ddaw m么r dros dir! Pa beth y'n gedir i ohiriaw?
Fe deimlodd beirdd eraill effaith y goncwest hefyd, ac eto, o fewn rhyw drigain mlynedd fe fyddai bardd mwyaf yr iaith Gymraeg yn ymddangos. Yr oedd Dafydd ap Gwilym yn feistr ar yr hen draddodiadau barddol o gyfnod Aneirin a Taliesin, ac eto roedd yn ddigon hyderus i fod yn arloeswr o ran ffurf a chynnwys. Sut ddigwyddodd hyn?
Mae'r cyfieithydd Tony Conran yn awgrymu bod y goresgyniad ei hunan wedi bod yn fodd i daflu ymaith rhywbeth a fu'n faich ar y genedl. Wedi'r cwbl, bu'r Cymry'n ymladd y Normaniaid a'u cefnau at y m么r am dros 200 mlynedd. Ac er mai'r Normaniaid oedd y concwerwyr, Cymry oedd mwyafrif y swyddogion oedd yn rhedeg y wlad. Cafodd y beirdd noddwyr newydd ymhlith yr uchelwyr Cymreig oedd yn berchen tiroedd ac yn dal swyddi yng Nghymru.
Mae'r ffaith bod Beirdd yr Uchelwyr wedi dod o hyd i noddwyr ymhlith y crach o blith y Normaniaid a'r Saeson, megis teulu Stradling ym Morgannwg a Salesbury yng ngogledd ddwyrain Cymru, yn dangos i ba raddau yr oedd yr uchelwyr Eingl-Normanaidd wedi derbyn iaith a diwylliant y wlad. Cafodd eu cefndir cyfandirol effaith yn ei dro ar feirdd megis Dafydd ap Gwilym, ac arweiniodd hyn at adfywiad llenyddol. Gwelwyd y bobl a'r diwylliant Cymreig yn ffynnu o dan y drefn newydd.
Er bod y concwerwyr wedi cyflwyno cyfraith droseddol Lloegr, mewn materion sifil parhaodd cyfreithiau Hywel Dda, ac o ganlyniad yr oedd y Gymraeg yn dal i fod yn iaith swyddogol rhai materion cyfreithiol a chrefyddol. Ond yn y 14eg a'r 15fed ganrif gwelwyd y Saesneg yn cael ei defnyddio'n amlach i ddibenion swyddogol, datblygiad a fyddai'n bygwth statws y Gymraeg.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.