Y Tuduriaid - y 15fed a'r 16eg ganrif
29 Awst 2008
Fe gipiodd Harri'r VII - Harri Tudur - goron Prydain o dan faner draig goch Cymru. Ond erbyn 1536 yr oedd Cymru, o ran y gyfraith, yn rhan o Loegr, a Saesneg oedd unig iaith swyddogol y wlad.
Daeth y Cymry i arfer 芒 bywyd wedi'r Goncwest Edwardaidd yn 1282, ond arhosodd elfen o ddrwgdeimlad. Bu o leiaf bum gwrthryfel o bwys cyn i Owain Glynd诺r lansio'r olaf a'r mwyaf o ymdrechion y Cymry i ennill eu rhyddid. Parodd y gwrthryfel o 1400 i 1410. Mae'r rhesymau tu 么l i'r ymgais yn destun trafod o hyd, ond mae'n ymddangos bod hunaniaeth ac iaith yn eu plith.
Mewn llythyr at Bab Avingon yn 1406 mynnodd Owain Glynd诺r y dylai offeiriaid yng Nghymru ddeall yr iaith. Ond erbyn 1415 yr oedd Glynd诺r wedi mynd ac roedd beirdd yn aros yn ddisgwylgar am Fab Darogan arall fyddai'n dod i waredu'r Cymry o orthrwm y Sacsoniaid.
Fe ddaeth un ym mherson Harri Tudur, a fyddai'n cael ei goroni'n Harri'r VII maes o law. Yr oedd yn un o ddisgynyddion teulu'r Tuduriaid o Ynys M么n, oedd wedi ochri gyda Glynd诺r bron ganrif yn gynharach.
Fe wnaeth Harri yn fawr o'r cysylltiad pan chwifiodd hen faner y ddraig oedd gan Cadwaladr yn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Yr oedd hi'n ymddangos ei fod yn cyflawni'n hen broffwydoliaethau y byddai'r Cymry'n adennill teyrnas Prydain oddi ar y Sacsoniaid.
I ryw raddau fe elwodd y Cymry o deyrnasiad Harri'r VII. Cafodd rhai o'r cymalau mwyaf gwrth-Gymreig yn y deddfau a basiwyd wedi gwrthryfel Glynd诺r eu diddymu. Ond diflannodd unrhyw syniad rhamantaidd y byddai Cymru'n cael ei hen ryddid gwleidyddol a diwylliannol yn 么l pan basiwyd Deddf Uno 1536. Pasiwyd y ddeddf gan Harri'r VIII, mab Harri, gan wneud Cymru'n rhan o Loegr.
Rhan o'r ddeddf oedd gwahardd Cymry uniaith Gymraeg rhag dal swydd gyhoeddus, gwneud Saesneg yn iaith swyddogol y wlad, hanfodol i'r rhai oedd yn llywodraethu, ac felly doedd medru'r Gymraeg bellach ddim yn angenrheidiol. I rai, roedd yr iaith yn embaras.
Dyma ddechrau'r broses o Seisnigo'r dosbarth hwn, proses a gwblhawyd fwy neu lai erbyn diwedd y 18fed ganrif. Dylid nodi nad oes unrhyw gofnod am brotestiadau na therfysg yng Nghymru o ganlyniad i basio'r Ddeddf Uno.
Yr oedd tynged yr iaith nawr yn nwylo'r werin. Cymru uniaith Gymraeg oedd y mwyafrif o hyd. Er i'r iaith gael eu halltudio'n ddiseremoni o fywyd cyhoeddus, mae'n eironig bod gwaredigaeth wedi dod o gyfeiriad swyddogol drwy'r newidiadau crefyddol a gyflwynwyd gan yr un Harri'r VIII a basiodd Ddeddf Uno 1536.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.