大象传媒

Beibl Cymraeg

Darllen y gair - 17eg - 18fed ganrif

29 Awst 2008

Cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546. Erbyn ail hanner y 18fed ganrif yr oedd mwyafrif y Cymry'n medru darllen i'r pregethwr o Sir Gaerfyrddin, Griffith Jones, y mae'r diolch am hynny'n bennaf.

Y llyfr Cymraeg cyntaf i'w gyhoeddi oedd Yn y lhyvr hwnn (sef y frawddeg gyntaf yn y llyfr) gan Syr John Price a hynny yn 1546. Erbyn 1660 yr oedd 108 o lyfrau wedi'u cyhoeddi yn y Gymraeg. Efallai nad oedd hyn yn rhif mawr o'i gymharu 芒 chyhoeddiadau mewn Saesneg a Ffrangeg, ond yn yr un cyfnod dim ond pedwar gyhoeddwyd yng Ngaeleg yr Alban ac 11 yn yr Wyddeleg.

Byddai llawer rhagor yn cael eu cyhoeddi yn ystod y ganrif nesaf, diolch yn bennaf i dwf y gwahanol enwadau Anghydffurfiol. Rhwng 1660 a 1730 cyhoeddwyd tua 545 o lyfrau, y mwyafrif yn rhai crefyddol.

Ond cafwyd llyfrau ar bynciau eraill hefyd, megis hanes Cymru. Yn 1718 argraffwyd y llyfr cyntaf ar wasg sefydlog. Y testun oedd ysmygu: Can o Senn iw hen Feistr Tobacco. Roedd y wasg yn Atpar ger Castell Newydd Emlyn, a fyddai'n symud yn fuan wedyn i Gaerfyrddin.

Cyhoeddwyd gweithiau poblogaidd eraill, megis almanaciau, a gwelwyd adfywiad mewn cynnal eisteddfodau. Fe ddaeth mwy a mwy o bobl i ddysgu darllen yn y 18fed ganrif, ac mae llawer o'r diolch am hynny i'r pregethwr o Sir Gaerfyrddin, Griffith Jones a'i ysgolion cylchynol.

Achub eneidiau oedd cymhelliad Griffith Jones pan aeth ati yn 1734 i sefydlu system o ddysgu plant ac oedolion sut i ddarllen mewn amser byr, fel arfer o fewn tri mis, cyn symud ymlaen i ardal arall. Roedd gan y cynllun noddwyr cefnog. Y Catecism a'r Beibl oedd y deunydd darllen. Fe aeth yr ysgolion teithiol hyn i bron bob cwr o Gymru. Cymraeg oedd yr iaith fel arfer, er fe ddefnyddiwyd y Saesneg mewn ardaloedd megis de Sir Benfro.

Pan fu farw'r gweinidog ymroddedig hwn yn 1771 credir bod bron hanner y boblogaeth wedi mynychu'r ysgolion hyn. Erbyn ail hanner y 18fed ganrif Cymru oedd un o'r ychydig wledydd yn Ewrop lle'r oedd mwyafrif y boblogaeth yn medru darllen. Roedd y cynllun mor llwyddiannus fe gomisiynodd Catrin, Ymerodres Rwsia, adroddiad ar yr ysgolion yn 1764.


Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Eisteddfod

Ceidwad y Cledd, Robin Mc Bryde

Canrif o Brifwyl

Canrif o hanes Cymru a'r byd drwy lygaid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.