Dychweliad y Derwyddon - 18fed - 19eg ganrif
29 Awst 2008
Yn y 18fed ganrif roedd yna ddiddordeb newydd ym mhopeth Celtaidd. Adferwyd hen sefydliad y derwyddon, Gorsedd y Beirdd, ac astudiaethau yn nharddiad yr iaith Gymraeg.
Yng nghanol y 18fed ganrif gwawriodd yr oes ddiwydiannol a dyma ddechrau'r cyfnod modern yng Nghymru. Yr adeg yma hefyd dechreuodd pobl ymddiddori o'r newydd yn hanes y wlad, ac un o gymeriadau mwyaf lliwgar yr adfywiad hwn oedd yr enigmatig Iolo Morgannwg.
Ganed Iolo, sef Edward Williams, yn Nhrefflemin ym Mro Morgannwg. Fe fyddai'n cael effaith ar y diwylliant Cymreig nid annhebyg i effaith y chwyldro diwydiannol ar y wlad. Iddo ef mae'n rhaid diolch am gael gweld un o ddarpar Archesgobion Caergaint yn cael ei urddo'n dderwydd.
Iolo sefydlodd Gorsedd y Beirdd i fod yn warchodwr iaith a diwylliant Cymru. (Ail?) sefydlwyd hen urdd y derwyddon mewn seremoni ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain yn 1792.
Ffantasi oedd y cyfan, wrth gwrs, fel llawer o weithiau Iolo, fel y canfu ysgolheigion yn ddiweddarach. Eto, roedd croeso i Orsedd y Beirdd ymhlith y bobl. Rhoddodd iddynt sefydliad oedd yn dyrchafu a gwerthfawrogi'r iaith, rhywbeth oedd wedi diflannu o'r tir yn Oes y Tywysogion ganrifoedd ynghynt. Yn 1819 cysylltwyd yr Orsedd yn ffurfiol 芒'r Eisteddfod, gan arwain maes o law at yr Eisteddfod Genedlaethol sydd gennym heddiw.
Nid oedd Iolo ar ei ben ei hun. Roedd adfywiad cyffredinol ym mhopeth Celtaidd yn y cyfnod hwn: roedd gan y gweledydd o Lundain, William Blake, er enghraifft, ddiddordeb arbennig yn y derwyddon. Aeth y Cymry alltud ati ym mhrifddinas y Saeson i sefydlu cymdeithasau megis y Cymmrodorion a'r Gwyneddigion a chyhoeddi cyfrolau'r hen weithiau llenyddol Cymreig er mwyn atgoffa'r Saeson, ond yn fwy arbennig y Cymry, o hen wreiddiau Prydeinig yr iaith.
Yr adeg yma hefyd yr oedd cymdeithas yn newid yn gyflym oherwydd y chwyldro diwydiannol. Aeth rhai ysgolheigion ati i fathu termau Cymraeg newydd i ddisgrifio'r newid byd. Nid oedd pob ymgais yn llwyddiannus; cafodd llawer o dermau eu bathu gan yr ysgolhaig William Owen Pughe ar sail damcaniaethau anhygoel yngl欧n 芒 tharddiad y Gymraeg a sut y dylid ei siarad. Ei gyfieithiad o 'the Welsh language' oedd 'yr iait Cybraeg'.
Ond o leiaf, dangosodd Pughe ac eraill nad oedd prinder pobl frwdfrydig, er yn gyfeiliornus ar brydiau, oedd yn barod i ymdrechu i addasu'r iaith ar gyfer oes newydd.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.