大象传媒

Beth Angell 漏 hawlfraint Aled Jenkins

Ymweld 芒 chartref Taid

Beth Angell yn gwneud ymweliad emosiynol 芒 chartref ei thaid a fu'n genhadwr ym Mryniau Khasia.

I genhedlaeth arbennig o Gymry y mae i Fryniau Khasia yn yr India arwyddoc芒d arbennig.

Maent yn dwyn i gof gasglu ceiniogau mewn blychau bychain i hyrwyddo gwaith y 'Genhadaeth Dramor' yno yn dod 芒'r trigolion at Iesu Grist.

Yr oedd hyd yn oed emynau i'w canu yn hyrwyddo'r gwaith pwysig hwn ar draws y byd:

Doed yr India fawr gyfoethog,
Heddiw dan dywyllwch sydd,
I gael gweld efengyl hyfryd
Yn dwyn drosodd olau'r dydd

Oedd, yr oedd pwys mawr at ddod a phaganiaid at eu coed crefyddol. "Golchi'r Ethiop du yn wyn" a dweud am Iesu Grist wrth "blant bach melynion" yn byw "draw, draw yn China a thiroedd Japan".

Bydd gan rai o'r genhedlaeth a fagwyd dan gysgod y gefnlen grefyddol hon ddiddordeb arbennig mewn cyfres deledu a ddarlledwyd gyda Beth Angell. Ymwelodd 芒 chartref ei thaid, y Parchedig Gwilym Angell Jones, a oedd yn genhadwr yn un o ardaloedd enwocaf oll y genhadaeth dramor, Bryniau Khasia, India, lle mae'r dylanwad y cenhadon cynnar yn parhau hyd heddiw.

Yno yn Jowai y ganed ac y magwyd ei thad Gwyn Angell Jones.

Ond yr oedd ymweliad y cynhyrchydd teledu a'r gomediwraig. 芒'r India yn rhywbeth mwy na chyfle emosiynol i ymweld a chartref ei chenhadwr o daid yn Jowai. Dyma oedd ganddi i'w ddweud:

Atgof plentyn

Un haf roedd fy ffrind gorau wedi cael cath newydd a b没m yn crefu ar fy nhad i brynu anifail anwes i mi.

Gwrthod gwnaeth o, gan ddweud ein bod ni'n rhy brysur ac y byddwn i'n colli diddordeb ymhen dim - yr un bregeth fyddai'n rhoi i'm plant heddiw!

Dwi'n cofio cyhuddo yn bwdlyd "Ma' si诺r bo' chdi di cael anifail" ac mi ddwedodd iddo gael mwnci unwaith, ond yn anffodus cafodd y mwnci ei fwyta gan deigr yn ystod y nos!

Mae gen i hefyd go plentyn o lun dyfrlliw yn hongian ar y wal yn y stafell fwyta yn fy nghartref.

Llun o d欧 syml oedd hwn, ac er nad oedd dim yn anghyffredin amdano, roedd yn freuddwyd gennyf i ymweld 芒'r lle a fu'n gartref i fy nhad a'i rieni. Ond gallwn ond breuddwydio, gan fod yr adeilad arbennig hwn yn sefyll mewn pentref bach o'r enw Jowai - yng ngogledd ddwyrain India.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae India wedi bod yn y newyddion yn feunyddiol. Mae economi'r wlad yn tyfu ar raddfa anhygoel - stori debyg i'r hyn a welwyd yn China.

Mae'r gair superpower yn cael ei gysylltu 芒'r wlad, er bod nifer fawr o wahanol esboniadau i ystyr y term arbennig hwn. Ond wrth i economi'r wlad dyfu, does dim dwywaith bod India bellach 芒'r modd i ddylanwadu o amgylch y byd.

Bob tro yr oeddwn yn mynd ati i agor papur roedd llun o ganolfan gyfrifiadurol newydd yn Bangalore neu ysbyty newydd yn Dehli a rhain yn ganolfannau arloesol yn eu meysydd. Roedd yr adnoddau yn ddi-fai a'r neges yn glir - mae India ar i fyny!

Mae'r ystadegau am economi a ffyniant y wlad yn drawiadol. Mae 37% o bobl bellach yn cyfrif eu hunain yn ddosbarth canol a 61,000 o filiwnyddion yn byw yn y wlad, heb s么n am 70 o ganolfannau siopa yn mynd i fyny yn Mumbai yn 2008 - a'r rhain yn ganolfannau na fydda mo'u cywilydd yn yr UDA.

Pan ges wybod i mi gael fy newis i gyflwyno cyfres S4C am yr India y peth cyntaf gofynnais oedd - ydw i'n cael mynd yna? Pan gadarnhawyd y byddwn i'n ymweld 芒'r wlad, roeddwn i wrth fy modd.

Realiti bywyd

Peidiwch 芒'm camddeall, pan dwi'n s么n am lewyrch yr India, roeddwn i hefyd yn ymwybodol bod tlodi enbyd yn perthyn iddi.

Yn wir, treuliodd fy rhieni flwyddyn gyfan yn codi arian i'r ysbyty cenhadol yn Jowai er mwyn prynu offer paediatric, ac roedd clywed y straeon o'r ysbyty bychan hwn yn rhoi syniad i rywun o'r problemau, ond, roeddwn yn teimlo fy mod yn barod i wynebu'r her.

Pan gamais oddi ar yr awyren, y peth cyntaf i fy mwrw oedd yr arogl yn y maes awyr, yn gymysgedd melys o fwyd, gwres a chwys.

Yna, wrth gamu allan i'r stryd i geisio cael tacsi ces fy mwrw gan yr holl bobl yn cynnig ceir, llety a chario bagiau.

Un m么r o wynebau yn awchu am gael helpu, er mwyn cael hawlio'r Rupee prin. Wrth weld y rhyddhad ar wynebau'r rhai a gafodd y gwaith, dechreuodd hi wawrio arnaf ba mor dlawd oedd ochr arall y geiniog.

Heblaw am Ewrop a'r Unol Daleithiau, dydw i erioed wedi bod yn 'teithio', felly nid oeddwn wedi paratoi fy hun o gwbl am yr hyn oedd am fy wynebu'n ddyddiol yn India, sef y tlodi erchyll.

Roedd pawb wedi s么n wrthyf am beidio rhoi arian i bobl yn begera ond doedd neb wedi dweud efallai mai plentyn amddifad chwech oed a'i brawd bach fyddai'n curo'n ddagreuol ar ffenest y car. Doeddwn i ddim wedi fy mharatoi yn feddyliol i wynebu'r fath beth ac roedd y sefyllfa yn fy ngwylltio.

Ces deithio yn helaeth o amgylch India a'r un oedd y stori yn y dinasoedd mawrion a'r pentrefi bychain. Roedd cyfoeth a thlodi ochr yn ochr, os nad yn cyd-fyw yna'n bendant yn cydfodoli. Wrth i un garfan ffynnu edrychai'n debyg mai suddo fyddai'r garfan arall.

Y dyfodol

Wrth deithio'r wlad a chwrdd 芒 phobl anhygoel - pobl oedd am weld India yn llwyddo i bawb - clywais straeon am rai oedd yn meddwl ar raddfa leol ac yn ceisio gwella eu cymunedau, ynghyd ag eraill oedd yn meddwl yn fwy cenedlaethol. Er bod eu dulliau yn wahanol iawn, yr un oedd eu bwriad - sef tynnu'r wlad at ei gilydd ac adeiladu sylfaen ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Beth Angell mai ei gobaith gyda Angell yn India oedd rhoi argraff o wlad gyffrous sy'n newid a gwella - ond bod yna sawl ochr i bob stori.

"Hoffwn fynd yn 么l i India, yn wir yn 么l i'r un ardaloedd ac at yr un bobl i weld beth fydd eu hanes ymhen deng mlynedd," meddai. "Hoffwn feddwl y bydd bywyd wedi gwella i bawb," meddai.

Ac yn ystod ei hymweliad fe gafodd, wrth gwrs, ymweld 芒 chartref ei thad yn Jowai.

"Roedd yn brofiad emosiynol ymweld 芒 chartref fy nhaid, fy nain a'm nhad am ei ddeng mlynedd cyntaf.

"Roedd y croeso ges i yn Jowai n arbennig ac fe ddaeth nifer ata i i ddweud mai fy nhaid oedd wedi'u bedyddio. Roedd ei barch at eu hiaith leol nhw, Kahsi , yn bwysig iddynt. Fel Cymro Cymraeg, roedd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd iaith. Fe gyfieithodd rai o'r emynau Cymraeg i'w iaith nhw.

"Mae gen i deimladau cymysg am yr holl egwyddor o anfon cenhadon i rannau eraill o'r byd, ond mae'r gweithwyr Cristnogol yma'n rhan bwysig o'n hanes ni ac mae llawer iawn o'r cenhadon Cymreig wedi gwneud cyfraniad mawr i ardaloedd ledled y byd.

"Roedd pobl y pentref yn gwerthfawrogi cyfraniad fy nhaid i'r gymdeithas, gan helpu cyfrannu at addysg, iechyd a chodi safonau byw yn yr ardal. Mae fy rhieni wedi cadw'r ddolen yn fyw trwy arwain ymgyrch codi arian lwyddiannus yng Nghymru er mwyn adeiladu ystafell lawdriniaeth yn yr ysbyty ac maen nhw wrthi'n adeiladu uned neo-natal yno hefyd gyda help arian a godwyd yma," meddai.

Darlledwyd Angell yn India dros gyfnod o bedair wythnos ar S4C fis Mawrth 2009.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.