大象传媒

Llun o Manikam

Y Ferch Fach o'r India

Susheela Lourie sy'n egluro sut y cafodd ei diweddar fam ei "chwythu fel hedyn" i Gymru o'r India yn bedair oed.

"Fe ddaeth fy mam i Fae Colwyn o Dde'r India ym 1920. Mae un o'i chyfoedion yn ei chofio hi'n cyrraedd: 'Gofynnwyd i mi fod yn ffrind iddi am nad oedd hi'n 'nabod neb. Roeddwn i mor gynhyrfus wrth ei chyfarfod - yn bedair oed, roedd hi'n gwisgo cot goch lachar wedi ei gwneud yn arbennig i'w chadw'n gynnes rhag yr oerni. Roedd hi'n gwenu lot a byth yn cwyno'.

Wedi'i chwythu i Gymru fel hedyn, wedi gorfod codi gwreiddiau a phlannu rhai newydd ymhell o Mysore, mae stori Manikam Sumetra yn gymysgedd o drasiedi a lwc dda.

Yn 1916, roedd ei rhieni Brahmin Hindu ar bererindod. Gorfu iddyn nhw aros yn Ysbyty Goffa Holdsworth am fod eu baban, fy mam, a hithau ond ychydig oriau oed, yn wael a gofynnwyd i'r cenhadwr Methodistaidd edrych ar ei h么l nes iddyn nhw ddychwelyd.

Fe gymerodd y Chwaer Ethel Tomkinson y babi i ofalu amdani. Ond ddaeth rhieni Manikam fyth yn 么l. Efallai bod ganddyn nhw ormod o blant i'w bwydo, efallai fod Manikam yn un o efeilliaid anlwcus - cred gyffredin yn yr India, neu efallai bod rhywbeth wedi digwydd iddyn nhw ar y ffordd adref. Pwy a 诺yr.

O'r cannoedd o blant amddifad dan ofal y chwaer Ethel, roedd tynged hon yn wahanol. Gan ei bod o dras Brahim, ac felly'n aelod o gast offeiriadol, fe ddaeth yr offeiriaid lleol draw i'r ysbyty i ofyn os caen nhw fynd 芒 Manikam i berformio'r Barat Natyam, dawns ddefosiynol temlau De'r India.

Gan ofni y byddai hyn yn golygu bywyd fel putain yn ddiweddarach a chan fod rhyfel yn Ewrop ar y pryd, fe benderfynodd y chwaer Ethel fynd 芒 Manikam i Gymru at ei theulu ei hun.

Fe gafodd deithio dan warchodaeth y Raj a chael pasport gwyrdd Prydeinig gan orfod rhoi marc bawd arno gan ei bod yn rhy ifanc i ysgrifennu ei enw ei hun. Fe ddaeth Manikam yn Monica ac fe deithiodd o'r India i Gymru ar long. Chafodd hi erioed ei mabwysiadu yn ffurfiol.

Argraffwyr Methodistaidd ym Mae Colwyn oedd y teulu Tomkinson. Blodeuodd Monica mewn cartref cariadus a diogel dan ofal chwaer ieuengaf Ethel, Ida, a'i magodd ar 么l i Ethel ddychwelyd i weithio yn yr India.

Roedd y teulu yn uchel iawn eu parch yn y gymuned a wnaeth neb fawr o s么n o'r ffaith eu bod nhw wedi mabwysiadu'r ferch fach o'r India. Mi fyddai hi'n si诺r o fod wedi bod yn dipyn o destun sylw ym Mae Colwyn yn y dauddegau er gwaethaf ei gwallt byr a'i dillad gorllewinol, ond roedd hi'n blentyn poblogaidd a hapus.

Roedd fy mam yn caru gogledd Cymru ac yno yr arhosodd hi: yr hedyn wedi gwreiddio'n ddwfn ac fe gafodd chwech o blant. Mae rhai ohonyn nhw wedi symud o'r ardal erbyn hyn ond mae eraill wedi aros. Mae hi'n anodd i'r un ohonon ni fentro allan ar strydoedd Bae Colwyn heb gael ein hadnabod fel plant Monica.

Mae hi bellach yn 82 o flynyddoedd ers i Monica ddod i Gymru a 14 o flynyddoedd ers iddi farw, ond mae stori'r ferch fach o'r India yn dal yn fyw yng nghalonnau ei theulu a'i chymuned: teulu sy'n falch o alw gogledd Cymru yn gartref."


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.