Beth
Nesa Ar Ôl TAG Uwch?
Ar hyn o bryd
mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n ymadael â’r ysgol gyda lefel
TAG Uwch yn mynd i brifysgol, ond mae lleiafrif, tua 10% i 15%,
yn dechrau gweithio.
Erbyn hyn does
yna ddim marchnad swyddi benodol i’r rhai sydd â lefel TAG Uwch.
Mae pethau wedi newid dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf a dim
ond graddedigion sy’n cael eu derbyn i’r rhan fwyaf o broffesiynau
erbyn hyn - cyfrifwyr, llyfrgellwyr, gwithwyr cymdeithasol. Ar yr
un pryd, mae’r twf yn nifer y graddedigion yn golygu fod pobl ifanc
â lefel TAG Uwch yn gorfod cystadlu yn erbyn graddedigion am swyddi
lle nad oes rhaid cael gradd. Efallai hefyd y byddi di’n cystadlu
yn erbyn pobl ifanc sy’n ymadael â’r ysgol yn 16/17 oed sy’n mynd
i fewn i swyddi drwy Brentisiathau Modern a Swyddi Dan Hyfforddiant.
Y ffactorau
positif i'r rhai sy'n gadael yr ysgol gyda Lefel A yw:
- bydd cyflogwyr yn gweld fod gen ti’r gallu a’r penderfyniad
i ennill cymhwyster lefel uchel fel lefel TAG Uwch
- fe fydd di’n
hun ac yn fwy aeddfed na’r rhai sy’n ymadael â’r ysgol ym Mlwyddyn
11
- rwyt yn gwybod
dy ganlyniadau TGAU - yr unig ganlyniad rwyt yn disgwyl amdano
yw dy Lefel TAG Uwch
- nid yw rhai swyddi, fel nyrsio a’r heddlu, yn agored
i rai dan 18 oed
- fe fydd gen ti well syniad mwy na thebyg o’r hyn
yr wyt am ei wneud na rhai iau sy’n ymgeisio am swyddi
- fe fyddi di’n llai tebygol o ymadael na rhywun
â gradd
- fe fyddi di’n rhatach na rhywun â gradd!
Y swyddi cyntaf mwyaf
cyffredin y mae ymadawyr lefel TAG Uwch/AS yn mynd iddynt yw:
- Clercaidd a gweinyddol
- Gwerthu a dosbarthu adwerthol
- Lletygarwch ac arlwyo
- Gweithwyr/cyfosodwyr cynhyrchu, gweithredwyr peiriannau
ym maes gweithgynhyrchu
- Technegwyr dan hyfforddiant mewn peirianneg gweithgynhyrchu,
crefftwyr a thechnegwyr adeiladu, cyfrifeg, fferylliaeth
- Maes iechyd – e.e. hyfforddiant fel nyrs, technegwyr
a gwaith gofal
|