| |
Ìý |
Cyrsiau AB Eraill
Yn gwybod pa fath o swydd rwyt ti am ei chael?
Eisiau cwrs mwy penodol-i-swydd na TAAU?
Efallai fod dy goleg lleol yn cynnig yr union gwrs i ti!
Pa gyrsiau AB eraill sydd ’na?
Mae yna gyrsiau
amser llawn eraill sy’n agored i rai 16+ ar wahân i TAG Uwch/AS
a GNVQ. Mae’r cyrsiau hyn yn arwain at gymwysterau fel TAAU,
Diplomâu BTEC a’r Tystysgrifau CACHE mewn nyrsio meithrin a gofal
plant. Mae’r cymwysterau hyn yn gysylltiedig â swyddi neu yrfaoedd
mwy penodol, felly mae gofyn i ti fod yn weddol siwr dy fod ti’n
gwybod pa fath o waith rwyt ti am ei wneud cyn i ti ddewis yr opsiwn
hwn.
Rhai pynciau y gellir eu dilyn?
- Amaethyddiaeth a phynciau eraill sy’n gysylltiedig â’r tir
- Arlwyo
- Astudiaethau chwaraeon
- Celfyddydau perfformio
- Electroneg
- Ffasiwn
- Ffotograffiaeth
- Gofal plant a nyrsio meithrin
- Gofalu am anifeiliaid
- Harddwch
- Peirianneg
- Rheoli ceffylau
- Sgiliau swyddfa
- Trin gwallt
Beth yw cyrsiau BTEC?
Mae cyrsiau BTEC yn debyg i GNVQ/TAAU ond eu bod wedi eu seilio’n
agosach ar yrfaoedd penodol fel Ffotograffiaeth neu Beirianneg Trydannol.
Mae Diploma Cyntaf BTEC mwy neu lai yn gyfysty i bedai TGAU gradd
C tra bod Diploma Cenedlaethol BTEC yn cyfateb i ddwy lefel TAG
Uwchneu’r dyfarniad ‘deuddeg uned’ TAAU, felly gellir ei ddefnyddio
i wneud cais i brifysgol neu i chwilio am waith.
Beth yw NVQs?
Cymwysterau sy’n canolbwyntio’n benodol ar swyddi yw NVQs, neu Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Gellir ymgymryd â nhw ar wahanol lefelau – Lefel 1 yw’r hawsaf.
Mae NVQs yn dangos i gyflogwyr dy fod wedi cael dy hyfforddi a dy fod wedi cyrraedd lefel benodol o
sgil mewn crefft benodol fel trin gwallt neu weldio.
Pobl sy’n gweithio neu’n cael eu hyfforddi sy’n gwneud NVQs gan mwyaf, ond mae rhai ysgolion a cholegau
yn cynnal cyrsiau rhan-amser sy’n arwain at NVQs
TIP
TANBAID!
|
Ffordd arall o ennill cymwysterau
ar gyfer swydd benodol, fel NVQs, yw dewis Hyfforddiant yn y Gwaith a chymryd Prentisiaeth Fodern neu
Raglen Hyfforddi Genedlaethol.
|
Beth nesa ar ôl
Cyrsiau AB ar gyfer swydd benodol? 404 Not FoundNot Found
The requested URL /cgi-bin/call_tip3/cymru/jyj_ab/ was not found on this server.
404 Not FoundNot Found
The requested URL /cgi-bin/call_tip3/cymru/jystyjob/ was not found on this server.
|
Ìý |
|
|
|
|
|
Lefel A/AS GNVQ
Hyfforddiant mewn gwaith Swyddi 404 Not FoundNot Found
The requested URL /cgi-bin/call_tip3/cymru/jyj_ab/ was not found on this server.
404 Not FoundNot Found
The requested URL /cgi-bin/call_tip3/cymru/jystyjob/ was not found on this server.
|
|
|
|