´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

´óÏó´«Ã½ Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Uwch
Ìý


Beth nesa ar ôl AU?

Canfu arolwg diweddar fod graddedigion yn rhestru’r isod fel y pethau pwysicaf sy’n effeithio ar eu rhagolygon cyflogaeth:

Pwnc gradd

Graddau galwedigaethol, rhyng-gyrsiau a graddau â sgiliau rhif oedd yn cynnig y rhagolygon swyddi gorau e.e. cyrsiau’n ymwneud â Meddygaeth, Peirianneg a Thechnoleg, Astudiaethau Busnes, Cyfrifiaduro a Mathemateg.

Roedd llai o raddedigion â graddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Gwyddorau Cymdeithasol, y Gwyddorau Naturiol a graddau rhyngddisgyblaethol wedi mynd i mewn i swyddi i ‘raddedigion’.

Siarad o brofiad...

Roedd yna tua 400 o raddedigion yn trio am 3 lle, felly roedd yna gryn bwysau. mwy>>

Tom Beard

Sgiliau Trosglwyddadwy

Mae llawer o gyflogwyr yn ystyried y sgiliau hyn yn hanfodol. Y sgiliau y dywedodd graddedigion ifanc mewn swyddi oedd eu hangen fwyaf arnynt oedd cyfathrebu llafar, sgiliau rhyngbersonol a’r gallu i flaenoriaethu gwaith a rheoli amser. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol gynnig cymorth i chi i adnabod sgiliau sy’n bodoli eisoes a chynnig ffyrdd y gallwch ddatblygu eraill. Yn gyffredinol, ymarfer siarad cyhoeddus ac edrych am ffyrdd fyddai’n eich galluogi i arddangos y rhychwant o sgiliau sydd gennych eisoes neu rydych yn gweithio i’w cael. Er enghraifft - gellir defnyddio trip maes neu hyd yn oed wyliau sy’n gysylltiedig â’ch cwrs neu gyda myfyrwyr eraill i arddangos eich sgiliau trefnu.

Profiad gwaith

Roedd profiad gwaith, a’r sgiliau sy’n deillio o hynny, yn ffactor hollbwysig er mwyn llwyddo wrth chwilio am waith, boed hwnnw’n brofiad yn sgîl lleoliadau cwrs, swyddi rhan-amser neu dros y gwyliau neu waith gwirfoddol. Unwaith eto gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol eich helpu i adnabod y sgiliau rydych yn eu dysgu yn eich profiad gwaith ac efallai y gallan nhw awgrymu lleoliadau da i ti lle y galli ymestyn y sgiliau yma neu ennill rhai newydd.

Math o brifysgol

Roedd mwy o fyfyrwyr o brifysgolion traddodiadol yn mynd i swyddi ar gyfer graddedigion na’r rheini o brifysgolion mwy newydd, ond roedd graddedigion galwedigaethol a’r rheini sydd â sgiliau rhif yn rhan o’u graddau yn gwneud yn dda dim ots pa brifysgol yr aethant iddi. Roedd gan y myfyrwyr fu’n astudio rhyng-gyrsiau fantais pan ddaeth yn amser chwilio am ‘swydd i raddedigion’. Er hynny, mewn rhai gyrfaoedd mae rhwydwaith yr ‘old school tie’ yn dal mewn bodolaeth. Mae nifer o dablau cynghrair yn strwythuro’u asesiadau gan gymryd i ystyriaeth gyflogaeth graddedigion. Ffynhonnell ddefnyddiol arall o wybodaeth yw llyfrgell y Gwasanaeth Gyrfaoedd. Mae gofyn i Wasanaeth Gyrfaoedd pob prifysgol gyhoeddi swyddi i raddedigion bob blwyddyn ac mae’r wybodaeth hyn ar gael i’r cyhoedd.

Dosbarth gradd

Er bod y rheini â graddau dosbarth 1af a 2.1 yn gwneud yn arbennig o dda o ran cael gwaith, roedd y rheini â 2.2 neu’n is yn gwneud yn iawn. Mewn llawer o achosion roedd gan gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn profiad a sgiliau gwaith na chanlyniadau gradd.

Rhyw

Roedd gan fwy o raddedigion gwryw swyddi ‘proffesiynol’, ac roedd mwy o fenywod mewn swyddi clercaidd/ysgrifenyddol. Roedd graddedigion gwryw yn ennill cyflogau uwch.

Myfyrwyr aeddfed

Roedd graddedigion iau yn ei chael hi’n haws i gael swyddi na graddedigion hyn ( dros 30 ).

HNDs

Roedd myfyrwyr HND yn ei chael hi’n fwy anodd na’r rhai â gradd, ond roedd tua 3/5 myfyriwr HND yn mynd ymlaen i wneud gradd yn hytrach na mynd yn syth i swydd. Ymdrech A bwrw bod popeth arall yn gydradd, roedd menter, creadigrwydd, penderfyniad a chynllunio gyrfaol da yn gwneud llawer iawn i sicrhau llwyddiant wrth chwilio am waith.

TIP TANBAID!

Cyn dewis dy gwrs AU beth am gael golwg ar safle AGCAS sydd â llwyth o wybodaeth am gyflogaeth i raddedigion, gan gynnwys rhagolygon swyddi tebygol yn ôl pwnc gradd a pha raddau yw’r mwyaf defnyddiol ar gyfer gwahanol swyddi.

Ìý

Lincs

Hefyd...
CVs
Cyfweliadau

Cam nesa...
Swyddi
Sgiliau ar gyfer gwaith


randomly included tips

randomly included tips

anfona egerdyn!


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý