´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

´óÏó´«Ã½ Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Swyddi
Ìý


CVs

Mae ‘CV’ yn sefyll am ‘Curriculum Vitae’ (‘hanes dy fywyd’) ac mae’n rhoi hanes dy yrfa hyd yma yn fyr ar bapur. Mantais CV yw ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth sylfaenol amdanat sydd ei hangen ar gyflogwr, a hynny ar un ddalen hawdd i’w darllen.

Unwaith y byddi di wedi sgrifennu a theipio dy CV, gelli wneud cynifer o gopïau ag y mynni. Mae hynny’n arbennig o ddefnyddiol os wyt ti am gyflwyno cais i sawl cwmni gwahanol yr un pryd. Gelli anfon copi o dy CV wrth wneud cais am swydd benodol neu os wyt ti’n ysgrifennu ‘mewn gobaith’.

Pa wybodaeth ddylai fod ar CV?

  • Manylion personol – enw, cyfeiriad, cod post, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost (os oes gen ti un)
  • Addysg
  • Cymwysterau
  • Sgiliau a rhinweddau personol
  • Hanes a phrofiad o ran cyflogaeth
  • Unrhyw sgiliau arbennig e.e. trwydded yrru
  • Diddordeb, hobïau a phethau rwyt ti wedi eu cyflawni
  • Canolwyr

Oes yna ‘fathau’ gwahanol o CV?

Mae CV ‘traddodiadol’ yn rhestru popeth yn nhrefn dyddiad gan ddechrau gyda dy addysg a’th gymwysterau, yna dy hanes o ran cyflogaeth, diddordebau ayb.

Mae CV ‘proffil personol’ yn dechrau gyda phortread ohonot ti sy’n tynnu sylw at sgiliau a phrofiad perthnasol i’r swydd. Mae CVs ‘proffil personol’ yn fwy modern a ffasiynol, ond efallai fod CVs ‘traddodiadol’ yn haws i’r rhai sy’n ymadael â’r ysgol i’w sgrifennu.

Awgrymiadau ar gyfer sgrifennu dy CV

Ceisiadau ar hap

Enghraifft 1 - CV traddodiadol - Person sy'n ymadael â'r ysgol

Enghraifft 2 - CV Proffil Personol - Person ifanc sy'n ceisio swydd

Llenwa dy CV dy hun

Mae'n syml! Clicia ar y lincs isod, llenwa dy fanylion ac yna arbed y ffeil ar dy gyfrifiadur

Templat CV Traddodiadol (13kb)

Templat CV Proffil Personol (13kb)

Ìý

Lincs

Hefyd...
Llythyrau cais
Swyddi gwag

Cam nesa...
Sgiliau ar gyfer gwaith
Hyfforddiant mewn gwaith


randomly included tips

randomly included tips

anfona egerdyn!


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý