Cyllid
Mae grantiau wedi cael eu diddymu a’u disodli gan
fenthyciadau. Cyflwynwyd ffïoedd hyfforddi. Faint mae hyn i gyd yn ei gostio ac a elli di gael help?
Ffïoedd Hyfforddi
Ar hyn o bryd,
gallet ti, neu dy rieni, dalu hyd at £1075 y flwyddyn tuag at gost
dy ffïoedd hyfforddi.
Mae faint yr ydych chi’n
ei dalu yn dibynnu ar incwm y teulu. Os nad oes llawer o incwm,
efallai na fydd rhaid i chi dalu o gwbl.
Os yw incwm dros ben dy rieni yn:
- llai na £20,000 y flwyddyn yna ni fydd rhaid i ti dalu o gwbwl
h.y. fe fydda’r AALl yn talu costau llawn y cwrs;
- rhwng £20,000 a £29784 bydd angen i ti dalu rhywfaint;
- mwy na £29,784 yna byddangen i ti dalu’r £1075 yn llawn.
Help gyda ffioedd a benthyciadau
Bydd Adran Dyfarniadau Nyfyrwyr dy AALl yn bwrw cyfrif o’r swm y
bydd rhaid i ti neu dy rieni ei dalu tuag at ffioedd hyfforddi,
os bydd rhaid talu o gwbwl, a faint o fenthyciad y mae gen ti hawl
iddo.
Dylet wneud cais i dy AALl am asesiad ariannol ar ol dyddiad cau
UCAS, sef Ionawr 15. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion a cholegau yn gwahodd
arbenigwr o’r AALl i siarad â’r myfyrwyr ac i rannu’r ffurflenni.
Benthyciadau
Mae’r Student
Loans Company yn rhoi benthyg arian i fyfyrwyr ar gyrsiau ‘dynodedig’
(bron i bob gradd HND) tuag at eu costau byw.
Gelli fenthyg tri chwarter o uchafswm y benthyciad sydd ar gael
heb ystyried incwm y teulu. Gwneir prawf moddion yn erbyn y chwarter
sy’n weddill felly mae cael benthyg yr elfen hon neu beidio yn dibynnu
ar incwm. Os wyt ti neu dy rieni’n gorfod talu’r ffi llawn o £1,075
mae’n anhebyg y byddet yn gymwys i fenthyg y chwarter sy’n weddill.
Cyfanswm y benthyciad
sydd ar gael i fyfyrwyr ar hyn o bryd yw:
|
Blwyddyn Lawn
|
Blwyddyn Derfynol
|
Myfyrwyr yn byw
oddi cartref – Llundain |
£4,590
|
£3,980
|
Myfyrwyr yn byw oddi cartref – unrhyw fan arall |
£3,725
|
£3,230
|
Myfyrwyr
sy'n byw gyda’u rhieni |
£2,950
|
£2,575
|
Ad-dalu dy fenthyciad
Ni fydd rhaid
i ti ddechrau talu dy fenthyciad yn ôl nes y bydd gen ti swydd a
dy fod ti’n ennill mwy na rhyw swm penodol - tua £10,000 y flwyddyn
ar hyn o bryd.
Nid yw’n fwriad gan y Student Loan Company i wneud elw ar dy fenthyciad
- mae graddfeydd yr adaliadau wedi eu cysylltu â chwyddiant. Mae’n
debygol y bydd yr ad-daliadau yn is na’r hyn rwyt yn ei ddisgwyl,
e.e. os wyt yn ennill £11,000 y flwyddyn dy daliad misol yw £7,
os wyt yn ennill £12,000 yna £15 fydd dy daliad misol. Yn amlwg
os wyt ti’n ennill mwy yna fe fydd yn ad-daliadau’n uwch felly os
wyt yn ennill £20,000 y flwyddyn, fe fyddi’n talu £75 y mis. Gall
dy AALl roi gwybodaeth i ti am fenthyciadau myfyrwyr pan yn anfon
ffurflen gais am fenthyciad atat.
Ffynonellau cyllid eraill
Efallai y gallet ti gael arian ychwanegol drwy:
- Nawdd
- Ysgoloriaethau
- Cronfeydd mynediad a benthyciadau caledi
- Dyfarniadau drama a dawns
- Lwfansau i fyfyrwyr ag anghenion arbennig
- Benthyciadau Datblygu Gyrfa (oedolion)
Gall dy Ganolfan Gyrfaoedd leol ddweud mwy wrthyt
am y rhain.
Cyrsiau Meddygol a Gofal Iechyd
Mae’r NHS yn rhoi bwrsariaethau ar gyfer rhai cyrsiau
AU fel nyrsio, ffisiotherapi a blynyddoedd olaf cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth.
Os cynigir lle i ti ar gwrs y mae’r NHS yn rhoi
bwrsariaeth ar ei gyfer, bydd y brifysgol yn rhoi gwybod i ti.
|