|
NVQs
(Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol)
Wyt ti am brofi i gyflogwr y gelli di wneud swydd?
Angen cymwysterau ar gyfer swydd benodol?
Mynna wybod mwy am NVQs!
Ffeil Ffeithiau NVQ
- NVQs yw鈥檙 cymwysterau galwedigaethol mwyaf adnabyddus.
- Fel arfer, pobl mewn swyddi neu rai sydd ar raglenni seiliedig-ar-waith sy鈥檔 gwneud NVQs, ond weithiau mae鈥檔 bosib eu gwneud yn yr ysgol neu鈥檙 coleg.
- Maent yn dangos fod gen ti鈥檙 sgiliau, y wybodaeth a鈥檙 ddealltwriaeth sy鈥檔 ofynnol ar gyfer galwedigaeth benodol.
- Cyrff dyfarnu cenedlaethol fel Edexcel (BTEC), City and Guilds ac RSA sy鈥檔 dyfarnu NVQs, felly mae cyflogwyr ar hyd a lled y DG yn eu cydnabod.
- Mae yna gannoedd o NVQs yn gysylltiedig 芒 swyddi gwahanol.
Lefelau NVQ
- Gellir cymryd NVQ ar bum lefel wahanol
- Lefel 1 yw鈥檙 hawsaf.
- Fel arfer, mae pobl ifanc sydd ar brentisiaeth neu raglen hyfforddi yn cymryd NVQs ar lefelau 2 neu 3.
- Ar gyfer pobl mewn swyddi technegol neu broffesiynol/rheoli uwch mae NVQs ar lefelau 4 a 5.
TIP
TANBAID!
|
I gael gwybod pa NVQ neu gymhwyster arall penodol-i-swydd sydd ei angen ar gyfer y swydd yr wyt ti am ei chael, dos i鈥檙 A-Z o Swyddi.
|
Pa ddiben sydd mewn cael NVQs?
Mae cymwysterau fel TGAU, lefel A/AS, GNVQs a Sgiliau Allweddol yn dweud wrth gyflogwyr dy fod ti wedi cyrraedd lefel benodol yn dy addysg gyffredinol. Ond mae cyflogwyr hefyd am wybod oes gen ti鈥檙 wybodaeth a鈥檙 sgiliau sy鈥檔 ofynnol i wneud swydd neu alwedigaeth benodol. Wyt ti wedi ymgymhwyso i fod yn dechnegydd peirianyddol, yn ben-cogydd, yn blymer neu i drin gwallt? Dyna pryd mae angen cymhwyster penodol-i-swydd fel NVQs arnat.
Er bod NVQs yn graddol ennill eu plwyf fel y prif gymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i bobl mewn gwaith, mae rhai cyrff proffesiynol, fel Cymdeithas y Gyfraith, yn dal i ddyfarnu eu cymwysterau eu hunain.
|
|