- yn 16 neu 17 mlwydd oed
- yn gyflogedig
- ddim yn mynd i’r ysgol na’r coleg yn llawn amser
- heb gymhwyster ‘Lefel 2’ yn barod
mae gen ti hawl i amser rhesymol o'r gwaith yn ystod oriau gwaith arferol, gyda chyflog, i astudio neu i gael hyfforddiant tuag at gymhwyster ‘Lefel 2’.
Faint o amser ga i o'r gwaith?
Mae’r ddeddf yn dweud y cei di amser ‘rhesymol’ o'r gwaith – ond does dim rheol bendant ynglyn â beth mae hyn yn ei olygu. Gallai olygu cael dy ryddhau am ddiwrnod i fynd i’r coleg neu gallai olygu neilltuo peth amser yn y gwaith er mwyn i ti gael astudio ar dy ben dy hun.
Beth mae rhaid i mi ei wneud?
Dy gam cyntaf yw siarad gyda dy gyflogwr. Os nad wyt ti am wneud hynny dy hun, cysyllta â’r Ganolfan Gyrfaoedd leol a gofyn iddyn nhw gysylltu â dy gyflogwr ar dy ran.
Beth yw cymhwyster ‘Lefel 2’?
Mae ‘Lefel 2’ yma yn golygu:
NVQ Lefel 2
neu
GNVQ Canolradd
neu
BTEC Cyntaf
neu
5 TGAU graddau A-C
neu
Gymhwyster ar lefel debyg
Cyn belled nad oes gen ti’r un o’r cymwysterau hyn yn barod, mae hyn yn golygu y gelli di ymgeisio am un ar y lefel hon yn y gwaith.
Mae’n rhaid i’r cymhwyster yr wyt ti’n ymgeisio amdano fod yn gymhwyster a fydd o help i ti yn dy yrfa i’r dyfodol ond does dim rhaid iddo fod yn uniongyrchol berthnasol i’r swydd yr wyt ti’n ei gwneud ar hyn o bryd.