´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

´óÏó´«Ã½ Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sgiliau
Ìý


Cymhwyster Sgiliau Allweddol 2000

Sgiliau Allweddol a Hyfforddiant Seiliedig-ar-Waith

Fel Hyfforddai Cenedlaethol neu Brentis Modern gelli di ennill cymwysterau mewn Sgiliau Allweddol yn ychwanegol at dy NVQs.

Mae unedau ym mhob un o’r chwe Sgil Allweddol ar gael ar bum lefel wahanol (lefel 1 yw’r hawsaf). Fel arfer bydd prentisiaid a hyfforddeion yn cymryd unedau ar lefelau 1, 2 neu 3.

Mae pa Sgiliau Allweddol rwyt ti’n eu cymryd ac ar ba lefel yn dibynnu ar y swydd rwyt ti’n cael dy hyfforddi ar ei chyfer.

Beth fydd y prawf ar gyfer y Cymhwyster Sgiliau Allweddol newydd?

Bydd y rhan fwyaf o’r marciau yn dod o ‘bortffolio’ (ffeil neu ffolder) o ‘dystiolaeth’ y byddi di yn ei chasglu.

Gall ‘tystiolaeth’ fod yn unrhyw beth rwyt ti wedi ei wneud sy’n profi fod gen ti’r sgiliau angenrheidiol. Ymysg enghreifftiau posib mae adroddiad ysgrifenedig (Cyfathrebu), graff (Defnyddio Rhif) neu allbrint cyfrifiadurol (TG).

Bydd rhaid hefyd i ti sefyll prawf ysgrifenedig ar gyfer pob uned Sgiliau Allweddol. Efallai y cei di dy esgusodi rhag y rhan hon os oes gen ti gymhwyster perthnasol yn barod.

Ni fydd gofyn o reidrwydd i ti gael gwersi Sgiliau Allweddol ar wahân oherwydd gall llawer o’r dystiolaeth ddod o waith rwyt ti’n ei wneud eisoes fel rhan o dy lefel A/AS, GNVQ, AVCE neu gwrs NVQ.

Sgiliau Allweddol a lefel A/AS/CGCCau/AVCEau

O fis Medi 2000 ymlaen gelli gymryd unedau yn y tri Sgil Allweddol cyntaf, sef:

  • Cyfathrebu
  • Defnyddio rhif
  • Gwybodaeth a Technoleg Cyfathrebu

ar lefelau 1, 2 neu 3, ochr yn ochr â dy gyrsiau lefel A/AS neu AVCE.

Gellir cyfuno’r unedau hyn i ffurfio’r Cymhwyster Sgiliau Allweddol newydd a allai dy helpu i gael gwaith neu le mewn prifysgol.

Ìý

Lincs

Hefyd...
Lefel A/AS
GNVQ

Cam nesa...
Swyddi
Hyfforddiant mewn gwaith


randomly included tips

randomly included tips



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý