Astudio
Lefel A a GNVQ
Oed:
17
Coleg
neu Brifysgol:
Coleg Gorseinon
Nawr
yn astudio:
Lefel AS Astudiaethau'r Cyfryngau a GNVQ Uwch
mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (a adnabyddir
hefyd fel Lefel A Alwedigaethol) Mae ganddi
eisoes 8 TGAU a GNVQ Canolradd mewn Iechyd a
Gofal Cymdeithasol
Nod
yrfaol:
Gwneud gradd a chael swydd fel athrawes ysgol
gynradd.
Pam:
Fe wnes i fwynhau'r GNVQ Canolradd ac roeddwn
i eisiau mynd ymlaen i wneud Lefel A, ond doeddwn
i ddim yn meddwl allen i ymdopi. Dyna pam wnes
i benderfynu gwneud Lefel A Galwedigaethol.
Mae'r rhan fwyaf sy'n gwneud yr un GNVQ 芒 fi,
eisiau gwneud gwaith cymdeithasol, nyrsio neu
ddysgu. Mae'r gwaith cwrs hefyd yn cyflwyno
dull gwahanol o weithio i bobl, yn enwedig os
nad ydyn nhw wedi gwneud yn arbennig o dda yn
eu harholiadau TGAU. Mae'r gwaith cwrs yn rhoi
ail gyfle iddyn nhw brofi'u hunain, oherwydd
y gwaith grwp a'r gwaith datrys problemau sy'n
rhan ohono, ac mae hynny'n hwb i'r hyder.
Pam
cyfuno: Ar y dechrau, dim ond y GNVQ oedd gen i
mewn golwg, ond pan es i i 'Ddiwrnod Agored'
y coleg, roedd y cwrs Astudiaethau'r Cyfryngau
yn swnio'n ddiddorol, a dyna pryd wnes i benderfynu'i
drio fe. Mae'r ddau gwrs yn ategu'i gilydd.
Mae'r GNVQ yn gyfystyr 芒 dwy Lefel A ac mae'n
gymysgedd o 2/3 Gwaith Cwrs ac 1/3 Arholiad.
Cyngor
arall:
Fydden i'n dweud wrth unrhyw un sy'n ystyried
cyfuniad fel hyn ei fod e'n waith caled ar adegau,
ond mae wedi gweithio i fi. Prif fantais gwneud
cyfuniad yw y bydd yr elfen Lefel A/arholiad
yn fy mharatoi i ar gyfer y ffordd mae myfyrwyr
yn y Brifysgol yn gweithio.
|