Llythyrau cais
Mae cyflogwyr yn defnyddio llythyrau a ffurflenni
cais i benderfynu pwy i’w wahodd am gyfweliad. Oni elli di gyrraedd y rhestr fer o bobl sydd i gael cyfweliad,
chei di mo’r swydd. Dyna pam mae hi’n werth cymryd dy amser a gwneud cryn ymdrech i wneud dy orau glas.
Tips – Llythyrau cais
Dylet ymateb i hysbysebion swyddi cyn gynted â phosib.
Os yw’r hysbyseb yn dweud ‘ysgrifennwch am ffurflen gais’ dylet sgrifennu llythyr byr i wneud hynny. Os
yw’n dweud ‘ceisiadau drwy lythyr’ mae angen i ti sgrifennu llythyr hirach gan gynnwys:
- teitl y swydd rwyt ti’n gwneud cais amdani
- dy oed, ysgol a’r arholiadau rwyt ti wedi eu pasio neu’n mynd i’w sefyll
- pam dy fod ti am gael y swydd a pham rwyt ti’n meddwl y byddet ti’n ymgeisydd addas
- manylion unrhyw brofiad gwaith neu swyddi rhan-amser rwyt ti wedi eu cael
- manylion byr am dy ddiddordebau a’th hobïau amser hamdden
neu dylet anfon CV ynghyd â llythyr byr yn lle hynny.
Oni bai dy fod ti’n hollol wych am sgrifennu llythyrau,
dylet ymarfer yn gyntaf bob amser.
Oni bai fod yr hysbyseb yn dweud yn wahanol, gelli
sgrifennu dy llythyr un ai ar brosesydd geiriau neu â llaw mewn inc du.
Defnyddia bapur gwyn o ansawdd da, heb linellau
arno, gydag amlen o’r un papur neu amlen swyddfa frown.
Dylet gynnwys dy gyfeiriad dy hun a chyfeiriad y
cwmni rwyt ti’n sgrifennu ato ar dop y llythyr.
Defnyddia enw’r person rwyt ti’n sgrifennu ato/ati
os yn bosib gan orffen gyda ‘Yn gywir’. Os nad wyt ti’n gwybod yr enw dylet sgrifennu ‘Annwyl Syr neu
Madam’ a gorffen gyda ‘Yr eiddoch yn gywir’.
Llofnoda dy lythyr ac yna sgrifenna dy enw mewn
prif lythrennau o dan y llofnod.
Os wyt ti’n enwi canolwyr (pobl y gall y cyflogwr
gysylltu â nhw i’w holi amdanat ti), dylet ofyn am eu caniatâd nhw yn gyntaf.
Gofynna i rywun arall edrych dros dy lythyr, yn
enwedig y sillafu, a chadwa gopi ohono.
TIP
TANBAID!
|
Os wyt ti’n
sgrifennu llythyr ar hap yn hytrach nag ateb hysbyseb, gall dy lythyr fod fwy neu lai run fath â’r llythyr
isod. Ond dylet newid y frawddeg gyntaf i rywbeth fel: ‘Rydw i’n sgrifennu i ofyn a yw hi’n debygol y
gallai fod swydd ar gael i hyfforddai yn adran arlwyo eich ysbyty yn y dyfodol agos’.
Neu gelli anfon
CV ynghyd â llythyr byr.
|
Enghraifft o lythyr cais - rhywun sy'n ymadael â'r ysgol
|