Ffurflenni cais
Mae cyflogwyr yn defnyddio llythyrau a ffurflenni
cais i benderfynu pwy i’w wahodd am gyfweliad. Oni elli di gyrraedd y rhestr fer o bobl sydd i gael cyfweliad,
chei di mo’r swydd. Dyna pam mae hi’n werth cymryd dy amser a gwneud cryn ymdrech i wneud dy orau glas.
Awgrymiadau – Ffurflenni cais
1. Cofia ddarllen drwy’r ffurflen i gyd cyn dechrau.
Penderfyna sut rwyt ti am ateb y cwestiynau ar ddarn o bapur neu lungopi yn gyntaf. Paid ag ysgrifennu
ar y ffurflen go-iawn nes bydd y copi rwyt ti’n ymarfer arno yn berffaith.
2. Dylet ddefnyddio prosesydd geiriau neu sgrifennu’n
glir a thaclus mewn inc du. Mae prif lythrennau yn syniad da.
3. Rho fanylion llawn yr holl wybodaeth y gofynnir
amdani. Ysgrifenna mewn brawddegau yn hytrach na geiriau sengl.
4. Paid â gadael unrhyw adran allan. Os yw hi’n
amlwg fod cwestiwn yn amherthnasol i ti – ysgrifenna Amh (‘amherthnasol’)
5. Paid â sgrifennu dim byd nad yw’n wir.
6. Paid â gwneud camgymeriadau sillafu. Gofynna
i rywun arall fwrw golwg dros y ffurflen.
7. Cadwa gopi o’r ffurflen ar ôl ei chwblhau fel
y byddi di’n cofio beth wnes di ei sgrifennu os cei di gyfweliad.
8. Os na fyddi di’n gwybod beth i’w ddweud – gofynna
i rywun am help.
Enghraifft o ffurflen gais
|