大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
大象传媒 Cymru - Llyfr y Flwyddyn大象传媒 Cymru - Llyfr y Flwyddyn

大象传媒 Homepage
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Enillydd 2007

Llwyd Owen yw'r gorau

Mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Lun, Gorffennaf 9, cyhoeddwyd mai Ffydd Gobaith Cariad yw Llyfr Cymraeg y Flwyddyn, 2007.

Yr awdur yw Llwyd Owen a ddywedodd y bydd yn defnyddio'r 拢10,000 o wobr i brynu 'camper van'!

Ond - fel y llynedd - llyfr arall a enillodd wobr y darllenwyr yn dilyn pleidlais a drefnwyd gan 大象传媒 Radio Cymru; cofiant Saunders Lewis, Un Bywyd o Blith Nifer gan Robin Chapman.

Yn y seremoni Wrth gyhoeddi'r wybodaeth am y brif wobr dywedodd Elinor Jones ar ran ei chyd feirniaid, John Rowlands a Gwion Hallam, nad oedd "cytundeb, ond mi oedd yna gonsensws" ymhlith y tri ohonynt.

Beiddgar a mentrus
Un peth y mae cytundeb cyffredinol yngl欧n ag ef, fodd bynnag, yw bod Llwyd Owen yn un o sgrifenwyr mwyaf beiddgar a mentrus Cymru ar hyn o bryd - ond wedi dweud hynny hyd yn oed y mae'n gryn gamp i awdur mor ifanc gipio y wobr hon gydag ail nofel iddo ei chyhoeddi o fewn blwyddyn.

Wrth drafod ei waith ar 大象传媒 Radio Cymru yn ddiweddar dywedodd Catrin Beard ei bod hi yn rhagweld y bydd yn datblygu'n "nofelydd pwysig iawn."

  • Cymro Cymraeg enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Saesneg hefyd, Lloyd Jones gyda Mr Cassini a dyma'r llyfr a ddewiswyd trwy bleidlais gan wrandawyr Radio Wales hefyd.

    Yn fab fferm o ardal Llangernyw mae Lloyd Jones yn byw yn Llanfairfechan ac ar gyfer y nofel uchelgeisiol a delweddol hon cerddodd ar draws Cymru saith gwaith mewn saith cyfeiriad gwahanol.

    Yr oedd hynny yn dilyn taith o fil o filltiroedd ar hyd arfordir Cymru i'w helpu ddod tros broblem yfed ddifrifol.

    O'r daith honno y deilliodd ei nofel gyntaf, Mr Vogel, sydd hefyd wedi ennill gwobr.

    Mae'r teitl Mr Cassini yn chwarae ar y geiriau Mr cas i mi.

    Kate Crockett o'r noson

  • Cliciwch i weld stori newyddion a lluniau.



  • About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy