大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr y Flwyddyn 2006: Gwynfor: Rhag Pob Brad
Y wobr i gofiant ond pleidlais Radio Cymru i nofel
Yn 么l y disgwyl cofiant Gwynfor Evans gan Rhys Evans a ddewiswyd yn Llyfr y Flwyddyn 2006.

Fodd bynnag, llyfr arall, nofel gan Manon Rhys, oedd 'dewis y bobl' fel petai - yn dilyn pleidlais ymhlith gwrandawyr 大象传媒 Radio Cymru!

O'r diwrnod y cyhoeddwyd Gwynfor: Rhag Pob Brad cyn y Nadolig y llynedd bu'r darogan yn gryf ymhlith beirniaid ac adolygwyr mai hwn fyddai yn ennill prif wobr y diwydiant llyfrau Cymraeg.

Y tri llyfr A nos Fawrth Gorffennaf 11, 2006, derbyniodd y newyddiadurwr sydd newydd ei ddyrchafu yn ddirprwy bennaeth newyddion a materion cyfoes y 大象传媒 yng Nghymru ei wobr mewn seremoni yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd, lle cyflwynodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan siec o 拢10,000 iddo.

Pleidlais radio
Ond i lyfr arall ar y rhestr fer, nofel gan Manon Rhys, Rara Avis, y byddai gwrandawyr 大象传媒 Radio Cymru wedi rhoi yr arian.

Y tri llyfr Dros yr wythnosau diwethaf gwahoddwyd gwrandawyr Radio Cymru i fwrw'u pleidlais eu hunain ar gyfer dewis enillydd Gwobr y Gwradawyr ac ar 么l gwobrwyo Rhys Evans, cyflwynwyd Gwobr Gwrandawyr 大象传媒 Radio Cymru i Manon Rhys a ddenodd dros 75% trawiadol o'r pleidleisiau - a hynny'n sicr yn mynd i godi cwestiynau yngl欧n a chystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn sydd yn un eithaf dadleuol beth bynnag.

Astudiaeth lenyddol gan Dafydd Johnstone oedd y trydydd llyfr a roddwyd gan y beirniaid, Catrin Beard, Elan Closs Stephens a'r Prifardd Ieuan Wyn, ar restr fer llyfr y Flwyddyn.

Deallus a threiddgar
Dywedodd Catrin Beard ar ran y tri beirniad mai camp Rhys Evans oedd cyflwyno "astudiaeth ddeallus a threiddgar mewn cyfrol ddarllenadwy a hygyrch".

Llyfrau'r rhestr fer Ychwanegodd: "Mae'r arddull newyddiadurol yn gyson a chlir; does dim byd yn ymhonnus yn ei ddull o gyflwyno. Yn hytrach, mae'n tynnu'r darllenydd i mewn ac yn ei arwain ar daith drwy hanes gwleidyddiaeth Cymru yr ugeingef ganrif."

Yr awdur
Ganed Rhys Evans yng Nghaerfyrddin, fe'i magwyd yn Aberystwyth ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth a Choleg Hertford, Rhydychen.

Ers dros ddegawd, bu'n newyddiadurwr gyda 大象传媒 Cymru a chyn ei ddyrchafiaddiweddar yr oedd yn olygydd gwleidyddol.

Gwynfor: Rhag Pob Brad yw ei gyfrol gyntaf acfe'i cyhoeddfwyd gan Y Lolfa - cyhoeddwyr cyfrol fuddugol y llynedd hefyd.

Enillydd y wobr gyfatebol yn Saesneg oedd Robert Minhinnick am ei lyfr To Babel and Back (Seren).

Trefnir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi Gymreig ac fe'i chefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Y deg llyfr a ddewiswyd gan y beirniaid ar gyfer y rhestr fer hir:
  • Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard gan Menna Baines, (Gwasg Gomer)
  • I Fyd Sy Well gan Sian Eirian Rees Davies, (Gwasg Gomer)
  • Gwynfor: Rhag Pob Brad gan Rhys Evans, (Y Lolfa)
  • Ll锚n yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 gan Dafydd Johnston, (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Y Gongl Felys gan Meinir Pierce Jones, (Gwasg Gomer)
  • Clirio'r Atig a Cherddi Eraill gan Alan Llwyd, (Cyhoeddiadau Barddas)
  • Omlet gan Nia Medi, (Gwasg Gwynedd)
  • Digon o Fwydod gan Mihangel Morgan, (Cyhoeddiadau Barddas)
  • Oni Bai gan Eigra Lewis Roberts, (Gwasg Gomer)
  • Rara Avis gan Manon Rhys, (Gwasg Gomer)

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy