大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
大象传媒 Cymru - Llyfr y Flwyddyn大象传媒 Cymru - Llyfr y Flwyddyn

大象传媒 Homepage
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llion Iwan

Galw am newidiadau i Lyfr y Flwyddyn

Mae'r awdur a'r darlithydd, Llion Iwan, wedi galw am newidiadau i gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Mewn cyfweliad efo'r rhaglen Stiwdio ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd bod angen ail-strwythuro'r gystadleuaeth er mwyn cyflwyno pedwar neu pum categori.

"Byddai'n well petai 'na gategor茂au ar gyfer genres gwahanol, er enghraifft, nofel gyntaf, llyfr plant, barddoniaeth ac yn y blaen," meddai Mr Iwan.

"Mae angen rhannu'r 拢10,000 o wobr sydd ar gael i'r enillydd. Byddai 拢5,000 i'r enillydd ac yna 拢1,000 i enillwyr y categor茂au yn well.

"Mae 拢10,000 yn gythraul o lot o arian i fynd i un lle pan ddyla' ni feddwl am wasgaru fo ychydig bach yn decach."

Awgrymodd hefyd nad ydi gwobr ariannol yn angenrheidiol yn rhoi statws i gystadleuaeth.

"Mae rhoi cymaint o wobr yn taflu pres. Er bod Gwobr Daniel Owen [yn yr Eisteddfod Genedlaethol] yn cynnig 拢5,000, 'dwi'n meddwl bod 'na fwy o statws i'r Fedal Ryddiaith."

Roedd Mr Iwan hefyd yn feirniadol o'r system sydd yn caniat谩u i awduron sydd yn derbyn grantiau ysgrifennu i gystadlu yng nghystadlaethau'r Eisteddfod.

"Mae'n iawn [i gystadlu] yn Llyfr y Flwyddyn, ond os y'ch chi'n cael grant i gyhoeddi, yna dydy cystadlu hefyd ddim yn deg.

"Mae cael grant yn rhyddhau amser i rywun 'sgwennu ac mae hynny'n rhoi mantais annheg iddyn nhw.

"Hefyd, unwaith 'da chi di cystadlu mewn Eisteddfod, ddyla' chi ddim cael cyfle i roi hwnnw i mewn yn y gystadleuaeth flwyddyn nesa.

"Unwaith 'da chi 'di cystadlu a 'di cael beirniadaeth, yna cyhoeddwch neu cadwch o ar y silff," ychwanegodd.

Mae Stiwdio yn cael ei ddarlledu ar 大象传媒 Radio Cymru pob nos Iau am 1800 BST gydag ail ddarllediad o'r rhaglen am 1830 BST ar nos Sadwrn



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy