大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
大象传媒 CymruMosgito, Newid byd

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Nadolig llawen gwyrdd

Nadolig Llawen Gwyrdd

Mae'n siwr fod y goeden wedi ei haddurno yn eich t欧 chi erbyn hyn! Ond wyt ti wedi oedi i feddwl am fod yn wyrdd y Nadolig yma? Os nad wyt ti, dyma ambell ddarn o gyngor gan Mosgito all sicrhau nad wyt ti'n teimlo'n euog wrth ddathlu eleni!

Anrhegion Wrth gwrs, mae Mam-gu ac Anti Nel yn disgwyl anrheg eto eleni. Heb s么n am dy ffrindiau gorau.

Does neb yn disgwyl i ti beidio rhoi anrheg, ond beth am feddwl am bethau cynaliadwy i'w rhoi? Mae rhoi tocyn i gyngerdd neu 'voucher' o siop yn llawer llai o ran maint nag anrheg arferol.

Ond, os wyt ti'n hynod o awyddus i gael anrheg o ryw faint arbennig i ffrind, beth am ei lapio mewn papur cylchgronau yn lle papur lapio? Byddi di'n dechrau trend newydd ac yn arbed ffortiwn! Paid ag anghofio fod modd lapio rhai anrhegion mewn sgarff all fod yn rhan o'r anrheg ei hun! Bargen!.

Cyngor gorau Mosgito ydy ceisia gadw'r amgylchedd mewn cof wrth i ti joio'r 诺yl! A rhanna'r hyn rwyt ti'n ei wneud gydag eraill. Wrth rannu syniadau, gall caseg eira ddechrau, gyda phawb yn dilyn arferion da ei gilydd.

Cardiau Nadolig Tybed wyt ti'n cofio pwy roddodd pa garden Nadolig i ti llynedd? Go brin. Gwastraff papur ydyn nhw yn amlach na pheidio. Wrth gwrs, mae'n braf anfon neges o ewyllys da i bobl - felly beth am wneud hyn ar y we neu trwy gyfrwng neges ddoniol ar y ff么n symudol?

Ond mae Mosgito yn dy glywed di'n gweiddi - 'dw i'n hoffi prynu cardiau Nadolig am fod yr arian yn mynd at achos da.' Wel, beth am i ti roi'r arian y byddet ti wedi ei wario i elusen beth bynnag? Gwych!

Ac, os wyt ti'n derbyn cardiau gan eraill, beth am i ti eu hail-gylchu nhw pan ddaw'r flwyddyn newydd? Neu'n well byth, pam na wnei di ddefnyddio eu cefnau nhw fel labeli ar gyfer y flwyddyn nesaf?

Coeden Nadolig ac addurniadau Beth am holi dy rieni a hoffen nhw ail-gylchu'r goeden eleni? Mae cael coeden naturiol lawer yn well i'r amgylchedd na choeden ffug. A hefyd, beth am greu addurniadau gyda phapur sydd yn y t欧 a bagiau plastig lliwgar? Gall y rhain edrych yn ffynci iawn. Cer ar y we i chwilio am ragor o syniadau.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy